Ozempic: Prinder cyffur diabetes oherwydd pobl yn ceisio colli pwysau

  • Cyhoeddwyd
Megan Jones Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Megan Jones Roberts, mae'r prinder cyflenwad yn gallu gwneud bywyd yn "anodd iawn" ar adegau

Mae yna bryder am brinder cyffur sy'n cael ei ddefnyddio i reoli lefelau siwgr cleifion diabetes, gan fod rhai yn ei ddefnyddio er mwyn ceisio colli pwysau.

Erbyn hyn mae cyflenwadau o'r cyffur Ozempic - sy'n cael ei ddefnyddio gan gleifion diabetes math 2 - yn brin iawn, ac yn aml mae'n rhaid i gleifion aros yn hir am eu presgripsiynau.

Oherwydd y galw cynyddol gan bobl mewn gwir angen, mae cleifion, swyddogion iechyd ag elusennau yn galw am beidio a dosbarthu'r cyffur ar gyfer colli pwysau.

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, maen nhw'n dilyn y cyngor ar gyfer y Deyrnas Unedig - sy'n nodi na ddylai Ozempic gael ei roi ar bresgripsiwn i bobl sydd am golli pwysau.

Dywedodd un ddynes o Aberystwyth ei bod hi wedi methu a chael gafael ar y cyffur yn ei fferyllfa am dros dair wythnos.

Roedd y feddygfa leol wedi dweud wrth Megan Jones Roberts y byddai'n rhaid iddi "edrych ar ôl ei chorff yn well", fel ei bod yn gallu ymdopi heb y cyffur.

Ar ôl holi a chwilio mewn sawl fferyllfa leol, fe lwyddodd hi i ddod o hyd i Ozempic, ond erbyn hyn dim ond dau ddos sydd ar ôl ganddi.

"Dwi ddim yn gwybod be fydd yn digwydd ar ôl i rhain orffen," meddai, "mae'n sefyllfa eithaf anodd ar hyn o bryd a dweud y gwir."

Dywedodd Ms Roberts bod y meddyginiaethau yn bwysig iawn iddi: "Os ydw i yn mynd yn stressful neu beth bynnag mae'r diabetes yn chwarae lan a'r siwgr yn mynd lan.

"Rwy'n trio 'neud yn siŵr fod hynny ddim yn digwydd trwy gymryd meddyginiaethau.

"Rwy' wrth gwrs yn edrych ar ôl fy nghorff trwy fynd i gerdded a bwyta yn iach. Ond, os nad yw'r meddyginiaethau gyda chi mae'n anodd iawn."

Disgrifiad,

Mae'n bwysig i bobl barhau i siarad gyda'u meddyg teulu os ydyn nhw'n cael eu heffeithio gan y prinder, meddai Mathew Norman o elusen Diabetes UK

Mae hi wedi bod yn defnyddio'r feddyginiaeth ers tua 15 mlynedd.

Os na fydd hi'n gallu cymryd y cyffur yn rheolaidd, yna bydd yn rhaid iddi ddibynnu yn gyfan gwbl ar geisio cadw at ddiet iach ac ymarfer corff, rhywbeth sy'n gallu bod yn anodd iawn, meddai.

"Hyd yn oed trwy fwyta lot o ffrwythau ma' rhaid bod yn ofalus o ran lefelau siwgr gyda rhai ffrwythau, yn enwedig pethe fel grawnwin er enghraifft."

Disgrifiad o’r llun,

Does dim disgwyl y bydd cyflenwadau yn dychwelyd i'w lefel arferol tan o leiaf Mehefin 2024

Yn ôl Llywodraeth Cymru, does dim disgwyl y bydd cyflenwadau o'r feddyginiaeth yn dychwelyd i'w lefel arferol tan o leiaf Mehefin 2024.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan y bydd "meddyginiaeth y bobl sy'n cael Semaglutide [dan frand Ozempic] ar bresgripsiwn ar hyn o bryd yn cael ei adolygu a, phan fydd angen, bydd triniaeth arall yn cael ei rhoi ar bresgripsiwn iddynt".

'Archebwch mewn da bryd'

Dywedodd Bwrdd Fferylliaeth Cymru eu bod yn ceisio cael mwy o stoc i gleifion.

Mae Richard Evans yn fferyllydd ac yn aelod o'r bwrdd: "Mae'n bwysig i gleifion gael y cyffur yma yn rheolaidd.

"Ry' ni'n gweithio'n galed i gael y stoc mewn, ond intermittent supplies ni yn cael. Dyw e ddim yn gyson.

"Fel arfer bydde ni yn dodi'r order mewn a bydde fe gyda ni'r diwrnod wedyn. Ond ar hyn o bryd dyw e ddim yn dod mewn mor rhwydd â hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Richard Evans yn galw ar bobl i archebu eu presgripsiwn mewn digon o amser

Yn ôl Mr Evans, does dim sicrwydd o ran pryd y bydd cyflenwadau'n cynyddu, ac o ganlyniad, dylai cleifion geisio sicrhau eu bod yn archebu eu presgripsiwn mewn digon o amser.

"Maen nhw wedi dweud bod problemau am fod gyda Ozempic nes canol y flwyddyn nesaf.

"Y gobaith yw y bydd y cynhyrchwyr yn neud siŵr bod digon o stoc i gael i bawb a bo' ni gallu rhoi'r cyffuriau i bobl sy' 'isiau fe fel bo' nhw'n cael y cymorth sy' ei angen arnyn nhw."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er mwyn diogelu'r cyflenwad o'r feddyginiaeth hon ar gyfer pobl â diabetes math 2, rydyn ni'n dilyn y cyngor ar gyfer y Deyrnas Unedig.

"Ym mis Mehefin, gwnaethom ysgrifennu at bob presgripsiynydd yn y Gwasanaeth Iechyd ac mewn clinigau annibynnol a phreifat i gadarnhau mai dim ond ar gyfer y cyflyrau hynny y maen nhw wedi'u trwyddedu ar eu cyfer y dylai Ozempic a meddyginiaethau eraill sy'n perthyn i'r un dosbarth therapiwtig gael eu rhoi ar bresgripsiwn.

"Mae'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol, y Cyngor Meddygol Cyffredinol, y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, a'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd i holl bresgripsiynwyr a fferyllwyr y meddyginiaethau hyn sy'n cefnogi'r safbwynt hwn."

Pynciau cysylltiedig