3 pheth i beidio dweud wrth berson sy'n byw efo diabetes
- Cyhoeddwyd
Mae Meleri Angharad wedi byw gyda diabetes math 1 ers yn 10 oed, a hyd heddiw mae pobl dal i ddweud pethau anwybodus iddi, sydd weithiau yn brifo.
Felly, dyma gyngor gan y ddynes 23 oed o Fethesda ar beth i BEIDIO dweud wrth rhywun sy'n byw hefo'r cyflwr.
1. 'Dydi o ddim yn ddiwedd y byd'
I ryw raddau, ydi, mae o.
Dwi yn dal i alaru am yr eneth fach oeddwn i cyn cael fy niagnosis yn 2009. Mi oedd hi'n ddiwedd y byd fel oeddwn i'n ei wybod. Dwi'n cofio y tro cyntaf i mi gael pigiad inswlin, a gofyn i'r nyrs am faint fyddwn i'n gorfod gwneud hyn.
Doedd ganddi ddim calon i ddweud wrtha i y byddai'n gorfod gwneud hyn am byth - y pigiadau, y profion gwaed, pwyso popeth dwi'n ei fwyta, cyfri carbohydradau, peidio gwneud gormod o ymarfer corff, gosod larwm ffôn yn y nos i wneud yn siŵr fy mod i dal yn fyw.
Ydw, dw i'n ymdopi, a heb golli coes - eto - a fyswn i'n gallu bod yn unrhyw beth 'dwi isio bod. Mi es i fyw yng Nghanada am ddwy flynedd, a wnaeth diabetes ddim fy rhwystro. Ond mae'n dal i fod yn sefyllfa drychinebus. Ac mae'n teimlo'n union fel diwedd y byd.
Beth yw clefyd siwgr math un?
Cyflwr lle mae lefel y glwcos (siwgr) yn eich gwaed yn gallu mynd yn beryglus o uchel oherwydd na all eich corff wneud hormon o'r enw inswlin. Mae hyn yn digwydd gan fod eich corff yn ymosod ar y celloedd sydd yn eich pancreas sy'n gwneud yr inswlin - felly all eich corff ddim ei gynhyrchu.
Mae angen inswlin arnom ni i gyd i fyw. Hebddo fyddai'r glwcos yn ein gwaed methu mynd i mewn i'n celloedd a thanio ein cyrff.
I rywun gyda diabetes math 1, mae'r corff yn dal i dorri'r carbohydradau o fwyd a diod a'i droi'n glwcos, ond unwaith mae'r glwcos yn mynd i'r gwaed does dim inswlin i'w ganiatáu i mewn i gelloedd eich corff. Felly mae glwcos yn dechrau cronni yn eich llif gwaed, gan arwain at lefelau siwgr gwaed uchel.
Mae tua 8% o bobl gyda diabetes yn y DU hefo diabetes math 1. Mae'n gyflwr difrifol a gydol oes.
2. 'Wyt ti'n cael bwyta…?'
Un o'r pethau dwi'n ei glywed amlaf yw "wyt ti'n fod i fwyta hwnna?". Yr ateb ydi, YDW! Mi ga i fwyta unrhywbeth dwi eisiau, ar yr amod fy mod yn cyfri'r carbohydradau a rhoi digon o inswlin amdano. Mae'r dyddiau o "ti ddim yn cael bwyta hwnna" wedi hen fynd.
Y ffordd i fynd y dyddiau yma ydy ceisio ffitio triniaeth diabetes o amgylch ffordd o fyw. Felly, y tro nesa welwch chi ffrind diabetig yn bwyta siocled, greision neu gacen, gadewch iddyn nhw!
I mi, bwyd yw un o bleserau mwyaf bywyd a dydw i ddim eisiau i fy nghyflwr i amharu ar hynny. Felly, os mae yna gacen siocled ar gael, fyddai'n siŵr o gael darn… neu ddwy!
'Carb-counting'
Mae cyfrif carbohydradau, neu carb-counting, yn ffordd effeithiol o reoli lefelau siwgr yn eich gwaed. Mae'n golygu y gellir cyfateb eich dos o inswlin i faint o garbohydradau rydych chi'n ei fwyta a'i yfed.
Felly, os ydw i'n bwyta siocled, pitsa neu basta, fydda i angen mwy o inswlin na fyswn i hefo salad neu ffrwyth. Ond, dydi o ddim mor anodd ac mae o'n swnio. Yn ffodus mae yna ddigon o apiau dyddiau hyn sydd yn ei gwneud hi'n haws i gyfri carbohydradau mewn bwyd.
3. 'O leia dydi o ddim yn life threatening'
Mae'r ateb i'r un yma reit amlwg… ydi mae o!
Mae yna gymaint o gymhlethdodau i'r cyflwr, a'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn rhai angheuol. Os 'dan ni ddim yn cymryd digon o inswlin, 'dan ni'n gallu marw. Os 'dan ni'n cymryd gormod o inswlin, 'dan ni'n gallu marw.
Dydi llawer o bobl ddim yn sylweddoli mai ni sy'n gwneud y penderfyniad mawr ynglŷn â faint o inswlin i'w gymryd bob tro - dydi meddyg ddim yn dweud wrthym faint i gymryd a dweud hwyl fawr tan yr apwyntiad nesa. Ni sydd yn gorfod cyfrifo faint o inswlin i'w gymryd, ac weithiau 'dan ni yn gwneud camgymeriadau! Rydyn ni'n derbyn cymorth ond yn y pendraw, ni sydd (neu yn ceisio bod) mewn rheolaeth o bob dim.
A goeliwch chi be? Mae llawer o'r bobl sydd yn gwneud y penderfyniadau yma yn blant ifanc. Dychmygwch blentyn ifanc yn gwneud penderfyniadau enfawr yn ddyddiol hefo meddyginiaeth sy'n gallu bod yn angheuol…
Diabetic Ketoacidosis
Diabetic Ketoacidosis, neu DKA, ydy pan mae yna ddiffyg difrifol o inswlin yn y corff. Mae hyn yn golygu na all y corff ddefnyddio siwgr ar gyfer egni, ac mae'n dechrau defnyddio braster yn lle hynny. Pan fydd hyn yn digwydd, mae cemegau o'r enw ketones yn cael eu rhyddhau. Os na chaiff ei wirio, gall ketones gronni a gwneud y gwaed yn asidig.
Mae arwyddion DKA yn cynnwys lefelau siwgr gwaed uchel, bod yn sychedig, mynd i'r tŷ bach yn aml, poen yn y stumog, anadl yn ogleuo'n felys neu fel ffrwythau (fferins pear drops).
Mae DKA yn ddifrifol a rhaid ei drin yn yr ysbyty ar frys.
Gall pawb gefnogi rhywun sydd yn diabetig, ac mae gennym ni i gyd rôl bwysig wrth gywiro ac osgoi camsyniadau cyffredin am y clefyd. Gall eich geiriau gael effaith fawr, felly dewiswch nhw yn ofalus i wneud gwahaniaeth.
Hefyd o ddiddordeb: