Aaron Ramsey i golli gweddill ymgyrch ragbrofol Euro 2024
- Cyhoeddwyd

Dydi Ramsey heb chwarae i Gaerdydd ers 16 Medi
Mae disgwyl y bydd capten Cymru, Aaron Ramsey, allan am o leiaf wyth i 10 wythnos oherwydd anaf i'w ben-glin.
Mae'n golygu bod y chwaraewr canol cae yn debygol o fethu'r tair gem sy'n weddill yn ymgyrch ragbrofol Cymru ar gyfer Euro 2024 - yn erbyn Croatia at 15 Hydref, ac Armenia a Thwrci ym mis Tachwedd.
Dydi hi ddim yn glir eto chwaith a fydd Ramsey, 32, angen llawdriniaeth ar yr anaf - rhywbeth allai ychwanegu'n sylweddol at ei gyfnod i ffwrdd o'r cae.
Dyw Ramsey heb chwarae ers 16 Medi, wedi iddo gael ei anafu mewn sesiwn ymarfer gyda Chaerdydd.

Fe sgoriodd Ramsey ym muddugoliaeth Cymru yn erbyn Latfia ym mis Medi
Dywedodd rheolwr yr Adar Gleision, Erol Bulut: "Mi fydd o [Ramsey] allan am o leiaf wyth i 10 wythnos, ac os oes rhaid iddo gael llawdriniaeth, gallai hynny ychwanegu hyd at 12 wythnos arall.
"Mae o'n chwaraewr allweddol i ni, ac yn sicr fyddwn ni yn gweld ei golli, ond mae'r garfan yn ddigon cryf i ni allu ymdopi a'r ergyd yma."
Bydd Cymru'n wynebu Gibraltar mewn gêm gyfeillgar yn Wrecsam ar 11 Hydref, cyn croesawu Croatia i Stadiwm Dinas Caerdydd ar 15 Hydref.
Mae'n rhaid i Gymru gael canlyniad yn erbyn Croatia - sydd heb golli gêm yn y grŵp eto - er mwyn cadw unrhyw obaith o orffen yn y ddau safle uchaf yng Ngrŵp D.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2023