Lori sbwriel yn cwympo i mewn i dwll ar bromenâd Y Rhyl

  • Cyhoeddwyd
Bin lorry in a hole on Rhyl promenade, with two workmen nearbyFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Gwnaeth y lori biniau cwympo i mewn i'r twll ar bromenâd Y Rhyl tra wrthi'n casglu biniau yn yr ardal

Mae peirianwyr yn ymchwilio ar ôl i lori sbwriel cwympo i mewn i dwll mawr ar bromenâd yn Y Rhyl.

Fe wnaeth darn o arwyneb y promenâd dorri i ddarnau o dan bwysau'r lori a gwympodd i mewn i'r twll cafodd ei greu.

Credir bod y lori yn gwagio biniau ar y pryd ac yn gyrru trwy ardal sydd fel arfer yn cael ei gadw ar gyfer cerddwyr.

Roedd yn symud yn araf a chafodd neb eu hanafu.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych: "Mae'r cyngor yn ymwybodol o ddigwyddiad ar y 5ed o Hydref yn ymwneud ag un o'i gerbydau casglu sbwriel ar y promenâd yn y Rhyl.

"Mae'r ardal wedi ei ddiogelu gyda bariau ac mae llwybr diogel i gerddwyr o hyd.

"Mae'r cerbyd bellach wedi ei alw yn ôl.

"Does dim adroddiadau am anafiadau corfforol a bydd peirianwyr yn ymchwilio i'r digwyddiad".

Pynciau cysylltiedig