Pryderon cwpl ynghylch cael mast 5G metrau o'u gardd

  • Cyhoeddwyd
Llun artist o'r mast ar dir y parc gwyliauFfynhonnell y llun, Storm Development
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o'r mast ar dir y parc gwyliau yng Ngheinewydd

Mae cais cynllunio wedi ei gyflwyno i Gyngor Sir Ceredigion i roi mast 5G, 21 metr o uchder (70 troedfedd), ar dir Parc Gwyliau Haven yng Ngheinewydd.

Os yn llwyddiannus, byddai'r mast tua 20 metr o waelod gardd Henry Dent a Lauren Bromley.

Adeiladodd y cwpl, sy'n hanu o'r ardal, eu tŷ yn 2018 ond maen nhw nawr yn pryderu ynghylch effaith bosib ar yr ardal o osod y mast, a'r effaith ar werth eu cartref.

Yn ôl Haven bydd y mast yn gwella'r ddarpariaeth data symudol mewn ardal all fod yn orlawn yn ystod misoedd yr haf.

Disgrifiad o’r llun,

"Pobl leol fydd yn talu'r pris", meddai Henry Dent a Lauren Bromley

"Ar ôl yr holl waith ni 'di rhoi mewn i'r tŷ a nawr ni'n teimlo fel mae 'di cymryd oddi wrthon ni," meddai Henry Dent, 44, sy'n rhedeg busnes yng Ngheinewydd.

"Ni'n teimlo'n anweledig."

Bwriad y mast yw gwella gwasanaeth Vodafone yn yr ardal, ac fe fyddai'n cael ei osod ar dir Haven Holidays mewn lleoliad yn rhan gefn y parc gwyliau.

Ond fe fyddai hynny'n golygu ei fod wrth ymyl tai lleol, ond allan o olwg preswylwyr yng ngharafanau'r safle.

Disgrifiad o’r llun,

Fe fyddai'r mast ochr arall wal gefn gardd y cwpl

"Pobl leol fydd yn talu'r pris," medd Lauren Bromley, sy'n 34.

"Un peth sy'n gyffredin am y mastiau yma yw eu bod nhw mewn ardaloedd lle does neb yn gallu gweld nhw.

"Maen nhw ar draffyrdd, yn uchel ar fynyddoedd. Dydyn nhw ddim ar waelod gerddi pobl.

"Dydyn ni ddim yn erbyn 5G. Ni just ddim eisiau'r mast yma i fod ar waelod ein gardd.

"Nid dyna pam dewison ni i fyw mewn ardal wledig. Nid dyna pam benderfynon ni i aros yma ar ôl cael ein magu yma."

'Sarnu'r holl olygfa'

Mae Mr Dent yn arwain ymgyrch gan bobl leol i wrthwynebu'r cais ar-lein. Hyd yma mae'r cais, ar wefan Cyngor Sir Ceredigion, wedi cael dros 50 o wrthwynebiadau.

Un o'r gwrthwynebwyr yw Nicola Anne Davies, sydd wedi byw yn yr ardal am dros 50 o flynyddoedd ac yn berchen ar ddau dŷ gyferbyn â'r parc gwyliau.

"Fel arfer chi'n edrych mas y ffenest a chi'n gweld Ceinewydd, chi'n gweld y môr, chi'n gweld yr arfordir lan at y gogledd," meddai, "ond nawr bydd hyn yn sarnu'r holl olygfa."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Nicola Ann Davies bod rhaid gwneud safiad yn erbyn lleoliad posib y mast

Un o bryderon pobl leol yw effaith bosib mast ar werth tai cyfagos.

Dywedodd Ms Davies: "Os bydden i mo'yn gwerthu bydden i'n gorfod cymryd tipyn llai o arian amdano nhw. Mae e'n rhoi pryder mawr i berson."

Mae Ms Davies hefyd yn honni bod y parc gwyliau, sydd wedi bod yng Ngheinewydd ers yr 1970au, yn achosi problemau eraill i drigolion lleol.

"Ar ddyddie' Sadwrn ac ambell waith ddydd Gwener, wel, mae tagfeydd traffig rhyfedda mewn pentref bach fel hyn.

"Ni'n rhoi lan gyda lot gyda nhw'n barod a ni ddim yn cwyno. Ond os oedd rhywbeth fel hyn yn dod mae'n rhaid gwneud rhywbeth.

"Mae digon o erwau o dir gyda nhw. Gallen nhw fod yn rhoi fe rhywle sy' falle'n sarnu olygfa'r carafanwyr, sy' falle' yma am wythnos mewn blwyddyn. Ond i ni'n gorfod dioddef e reit yn ganol ein cymuned fach."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r parc wedi derbyn ymwelwyr yng Ngheinewydd ers y 1970au

Yn ôl Dr Robert Bowen, darlithydd busnes ym Mhrifysgol Caerdydd, byddai penderfynu peidio rhoi mast 5G yn yr ardal yn "anfantais" yn economaidd.

"Ni angen sicrhau bod yr isadeiledd mewn lle fel bod pobl sy'n dod mewn i'r ardal yn gallu defnyddio'r un fath o wasanaethau maen nhw'n disgwyl gweld," dywedodd.

"Ni'n dueddol o weld falle bod yna busnesau mewn ardaloedd gwledig sy'n gweld trafferthion os nad oes gyda nhw'r isadeiledd i gysylltu i wasanaethau digidol."

Er hyn mae Dr Bowen yn cydnabod bod angen sicrhau bod isadeiledd fel mastiau 5G mewn lleoliadau "addas".

Disgrifiad o’r llun,

Baner yn amlygu gwrthwynebiad i'r cais cynllunio

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran cwmni Haven: "Yn unol â'n buddsoddiad parhaus ar draws ein parciau, rydym yn ymchwilio'n barhaus i gyfleoedd i ddatblygu a gwella ein harlwy.

"Byddai'r mast yn galluogi ymwelwyr a phobl leol i elwa o gysylltedd gwell yn yr ardal.

"Wrth i ni barhau i ddatblygu ein cynlluniau rydym am weithio'n agos gyda'r awdurdodau a'r gymuned leol a cheisio mynd i'r afael ag unrhyw faterion."

Roedd gan y cyhoedd tan 6 Hydref i fynegi barn ar wefan cynllunio Cyngor Sir Ceredigion.

Dywedodd y cyngor mewn datganiad bod y cais yn un Hysbysiad Ymlaen Llaw sy'n golygu bod yr hyn y mae'r ymgeisydd yn gofyn amdani "yn ddatblygiad a ganiateir yn amodol ar ganiatâd gan yr awdurdod cynllunio lleol ar gyfer lleoliad ac ymddangosiad".

Ychwanegodd: "Mae gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol 56 diwrnod i roi gwybod i'r datblygwr am ei benderfyniad ynghylch a oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer y lleoliad a'r ymddangosiad, yn ogystal ag i roi gwybod i'r gweithredwr am ei benderfyniad i ganiatáu neu wrthod cymeradwyaeth."

Mae BBC Cymru wedi gofyn am sylw gan gwmni Vodafone.

Pynciau cysylltiedig