Y Preselau: Ofnau y caiff mast ei ganiatáu ar apêl
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr yn erbyn cynlluniau i godi tŵr telegyfathrebu 51 metr o uchder ar y Preselau yn "bryderus iawn" y gallai'r cais gael ei ganiatáu ar apêl, ac y gallai osod cynsail peryglus am ddatblygiadau pellach o fewn y Parc Cenedlaethol.
Cafodd cais cwmni Britannia Towers II ei wrthod gan y Parc Cenedlaethol ym mis Hydref yn sgil pryder am yr effaith ar dirlun arbennig Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Mae'r cwmni bellach yn apelio yn erbyn y penderfyniad.
Yn ôl y cwmni, mae'r tŵr ger Rosebush yn hanfodol i drosglwyddo data ariannol rhwng canolfannau ariannol yn Ne Iwerddon a Lloegr trwy gyfrwng cysylltiad meicrodon.
Mae grŵp newydd - Cyfeillion y Preselau - wedi cael ei ffurfio i ymladd yn erbyn y cynlluniau.
Mae Alwyn Evans o Ffynnongroes yn aelod o'r grŵp ac mae'n bryderus y byddai gwyrdroi y penderfyniad gwreiddiol yn gosod cynsail peryglus.
"Dwi'n meddwl fydde fe'n bryderus iawn i ddweud y gwir achos unwaith eto, ry'n ni'n edrych ar ardal naturiol fan hyn, 'se chi ond yn edrych o'n hamgylch ni, do's na'm hawl adeiladu dim byd.
"Mae nifer o ffermwyr wedi ceisio rhoi turbine ar eu tir o fewn yr ardal 'ma a 'na' yw'r ateb am fod cyfoeth naturiol prydferth iddo fe.
"I fi, unwaith wnewch chi rywbeth fel hyn, chi'n agor y drysau i lot o bethau arall i ddigwydd hefyd.
"Mae e'n effaith parhaol, ond mae e'n effaith gweladwy. Mae e mynd i fod yn effaith gweladwy fin nos achos fe fydd rhaid iddyn nhw roi golau arno fe.
"'Ni 'di troi mewn i dwristiaeth, mae gyda ni bobl yn aros gyda ni, a maen nhw'n bwyta'u brecwast yn y bore yn edrych mas ar y mynyddau 'na.
"I ni falle ac i lot o ffermwyr yr ardal, chi mor gyfarwydd â'i weld e fel mae 'fe, so chi'n ystyried beth galle ddigwydd 'se'r olygfa yna'n newid. Ry'n ni'n dueddol o'i gymryd e'n ganiataol."
Erbyn hyn, mae cwmni Vodafone wedi ysgrifennu llythyr o gefnogaeth ar gyfer yr apêl sy'n dweud y bydd y tŵr yn fuddiol er mwyn "gwella'r gwasanaeth symudol band eang ar draws ardal eang".
Fe fydd yr apêl yn cael ei chlywed gan arolygwr cynllunio o PEDW - Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru - gyda'r dyddiad cau ar gyfer ymatebion gan y cyhoedd am hanner nos ddydd Mercher, 27 Medi.
Mewn dogfen sydd wedi ei chyflwyno i'r apêl, mae asiant cwmni Britannia Towers II, Waldon Telecom, yn dadlau y bydd y "budd cyhoeddus" o ganiatáu'r tŵr yn drech nag effaith y datblygiad ac y dylai'r cais felly gael ei ganiatáu.
Maen nhw'n cynnig bod rhan isa'r tŵr yn cael ei baentio'n wyrdd i gyd-fynd â'r coed gerllaw.
Fe fydd copa'r tŵr haearn latis rhyw 430 metr uwchben lefel y môr (1,140 troedfedd).
'Angen amlwg'
Mae'r safle yng nghoedwig Pantmaenog, uwchben hen chwareli Rosebush, o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Yn ôl y ddogfen gan gwmni Waldon Telecom, ar ran yr ymgeiswyr, mae yna "angen amlwg am gysylltiad meicrodon" rhwng y canolfannau ariannol a hefyd darparu "gwasanaeth symudol band eang ar gyfer ardal wledig".
Mae'r cwmni yn dadlau na fydd yr effaith weledol ar y parc yn "annerbyniol".
Yn ôl Hefin Wyn o grŵp Gwarchod y Preselau, mae yna ddyletswydd i warchod y Preselau rhag datblygiad fel hwn.
"Mae'r gair 'gwarchod' yn bwysig iawn. Os ydych chi'n gwarchod rhywbeth, ry'ch chi'n gwarchod eiddo neu perchnogaeth," meddai.
"Ry'n ni'n teimlo bod y Preselau wedi cael eu diogelu ar ein cyfer ni nôl ar ddiwedd y 40au a'r ganrif ddiwetha', pan lwyddwyd i rwystro'r swyddfa rhyfel rhag dod â'u tanciau yma i ymarfer milwrol parhaol.
"Ry'n ni'n gwarchod yr hyn sydd wedi cael ei ddiogelu ac mi oedd hwn yn fygythiad pendant i ddiogelwch y Preselau, yr holl brydferthwch, a phopeth sy'n perthyn iddo fe.
"Ni yw'r perchnogion bellach a hynny ers dyddiau lawer, ers dyddiau Pwyll Pendefig Dyfed mewn gwirionedd."
'Na, na i'r horwth'
Mae'n wfftio'r syniad y bydd yna fudd i'r gymuned leol.
"Does 'na ddim tystiolaeth pendant fod Vodafone yn gefnogol i'r peth a rhywbeth 'gyda llaw' yn llwyr yw hynny. Taflu llwch i'n llyged ni maen nhw'n gwneud," ychwanegodd.
"Mae 'na gwmnïau ffôn arall, ni'n cael derbyniad ffôn digon da yn yr ardal yma, does neb yn yr ardal yn cwyno bod rhaid cael rhyw fast mawr i wella'r derbyniad ffôn. Ma' 'na ddigon o fastiau arall ar hyd y lle yma sy'n gwneud y gwaith hynny'n iawn.
"Peidied neb â cael ei dwyllo gan yr honiad yna. Gwneud arian yw'r bwriad, trosglwyddo gwybodaeth ariannol o Lundain i Iwerddon a dyna pam ry'n ni'n synnu hwyrach bo nhw yn apelio.
"Yr ymchwil sydd wedi cael ei wneud i'r cwmnïau 'ma, mae'n anodd iawn gwybod a deall pwy y'n nhw ond ma' 'na nid biliynau ond triliynau o arian yn y fantol iddyn nhw i'w wneud. Cyfalafiaeth yw e i gyd.
"Dyna pam mae'n rhaid i ni aros yn gadarn nawr, mae'n rhaid i ni warchod y tirlun ar hyn o bryd. Mi alle fe agor y llifddorau ond galle fe? 'Na! na!' ry'n ni gyd yn ei ddweud i'r horwth o beth yma."
Mae asiant y cwmni, Waldon Telecom, ynghyd â chwmni Wholesailor fydd yn defnyddio'r tŵr, sydd â'u pencadlys yn Yr Iseldiroedd, wedi cael cais i wneud sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd13 Medi 2016
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2018