Adran Dau: Casnewydd 1-2 Harrogate

  • Cyhoeddwyd
Will EvansFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Will Evans sgoriodd i Gasnewydd ond llwyddodd Harrogate atal unrhyw goliau arall gan y tîm o Gymru

Colli oedd hanes Casnewydd wrth iddyn nhw wynebu Harrogate ddydd Sadwrn.

Gwnaeth George Thomson rhoi'r ymwelwyr ar y blaen ar ddiwedd yr hanner gyntaf gydag ergyd cryf o du allan i'r bocs yn cario'r bêl i gefn y rhwyd.

Ychwanegodd Anthony O'Connor i sgôr Harrogate gyda gôl oddi ar gornel gan Thomson.

Will Evans sgoriodd i Gasnewydd ond llwyddodd Harrogate atal unrhyw goliau arall gan y tîm o Gymru.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn cwympo i 19eg yn Adran Dau.

Dywedodd rheolwr Casnewydd, Graham Coughlan: "A oedden ni'n haeddu'r pwynt? Ie, roedden ni siŵr o fod yn, ond mae gennym ni mwy i'w wneud.

"Chi'n methu perfformio fel 'na yn yr hanner gyntaf a disgwyl cymryd unrhyw beth o'r gêm.

"Rydyn ni'n dangos naïfrwydd, yn dangos ein diffyg profiad ac mae hynny'n anodd."