Plaid Cymru: 'Rhaid derbyn clod am bolisïau'
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid i Blaid Cymru sicrhau ei bod yn derbyn y clod am bolisïau fel prydau ysgol am ddim, yn ôl un o'i gwleidyddion.
Mae prydau am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yn rhan allweddol o gytundeb cydweithio Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru
Bydd y cytundeb tair blynedd - fydd yn dod i ben yn Rhagfyr 2024 - hefyd yn cynyddu'r nifer o wleidyddion yn y Senedd o 60 i 96.
Yng nghynhadledd Plaid Cymru yn Aberystwyth gofynnwyd i wleidyddion sut maent yn atal Llafur rhag cymryd yr holl glod am y polisïau.
"Dyna yw'r her fawr, 'wi'n meddwl," dywedodd yr AS Cefin Campbell.
"'Y ni wedi ennill cymaint dros Gymru.
"Ni wedi cyflawni cymaint o amcanion Plaid Cymru trwy'r cytundeb yma - ac mae'n rhaid i ni dderbyn y clod am y gwaith 'y ni wedi 'neud."
Bydd y cytundeb cydweithio a arwyddwyd gan gyn-arweinydd Plaid Cymru, Adam Price yn dod i ben yn 2024 ac mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi cadarnhau na fydd yn edrych i'w ymestyn.
Roedd yr addewid prydau ysgol am ddim yn rhan o faniffesto Plaid Cymru yn 2021, ond doedd hynny ddim yn cael ei gynnig gan Lafur.
Heb fwyafrif yn y Senedd, mae Mr Drakeford yn dibynnu ar bleidleisiau Plaid Cymru i gyflwyno deddfau a chyllidebau.
'Y bwlch rhwng Llafur yn lledu'
Yng nghynhadledd y blaid cyhuddodd Liz Saville Roberts aelodau Seneddol Llafur Cymru yn San Steffan o gefnogi arweinyddiaeth eu plaid yn Llundain yn hytrach na Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.
Cyfeiriodd at wahaniaethau dros ddatganoli pwerau plismona a chyfiawnder, yn ogystal â chynrychiolaeth gyfrannol.
Mae Mr Drakeford wedi galw am ddatganoli'r fath bwerau i Gymru, ond ni wnaeth adroddiad ar sefyllfa Prydain o dan lywodraeth Lafur gefnogi'r syniad.
Ym mis Mawrth, dywedodd Sir Keir Starmer na fyddai cyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol i etholiadau cyffredinol yn flaenoriaeth i lywodraeth Lafur.
Yn siarad yn y cynhadledd ar ddydd Sadwrn dywedodd Ms Saville Roberts: "Gyda'r bwlch rhwng Mark Drakeford a Keir Starmer yn lledu, mae ASau Llafur a ddylai fod yn cynrychioli diddordebau Cymru yn anwybyddu barn Llafur Cymru yn y Senedd, sydd yn gynyddol yn dilyn arweinyddiaeth Plaid Cymru."
Mae rhai ASau Llafur Cymru wedi dweud yn breifat eu bod yn pryderu am gyfraith 20mya Llywodraeth Cymru, sydd wedi profi'n ddadleuol, gyda dros 400,000 o bobl yn arwyddo deiseb yn erbyn.
Dywedodd un bod y gyfraith yn rhoi cyfle i'r Ceidwadwyr, tra galwodd un arall y mesur yn "wallgof".
Mewn cyfweliad gyda'r BBC dywedodd Ms Saville Roberts bod y Ceidwadwyr yn defnyddio'r mater mewn modd "hynod sinigaidd."
Yn ei haraith dywedodd Ms Saville Roberts bod Plaid Cymru a Mark Drakeford yn cytuno o ran datganoli rhagor o bwerau i Gymru.
"Mae arweinwyr Llundain ac ASau Llafur San Steffan yn protestio'n angerddol dros gadw pwerau yn San Steffan, er yr holl dystiolaeth o'r difrod cymdeithasol a gwastraff adnoddau mae'n achosi," dywedodd.
Ychwanegodd mai dim ond Plaid Cymru sy'n brwydro dros Gymru yn San Steffan.
Cyn yr etholiad cyffredinol yn 2019 gwnaeth Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd gytuno i beidio cystadlu yn erbyn ei gilydd am ddwsinau o seddi.
Wrth siarad ar Radio Wales Breakfast, awgrymodd Ms Saville Roberts nad oes unrhyw gytundebau o'r fath mewn lle ar gyfer yr etholiad nesaf ar hyn o bryd.
Ddydd Gwener, pleidleisiodd y gynhadledd yn erbyn y galw i wrthwynebu porthladdoedd rhydd.
Mae porthladdoedd rhydd yn ardaloedd lle gall cwmnïau elwa gan nad yw rheolau treth a thollau arferol yn berthnasol, gydag un yn cael ei sefydlu ar Ynys Môn - etholaeth arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Roedd cynnig a gyflwynwyd gan gangen undeb llafur y blaid yn nodi fod porthladdoedd rhydd wedi bod yn "fethiant llwyr" yn y DU.
Ond pleidleisiodd aelodau yn Aberystwyth dros welliannau a gyflwynwyd gan aelodau Senedd Plaid Cymru ac ASau a ddywedodd y dylai'r ffordd y mae porthladdoedd yn cael eu rhedeg ddiogelu hawliau gweithwyr.
Yn ei araith gyntaf i'r gynhadledd ers dod yn arweinydd, pwysleisiodd Rhun ap Iorwerth fod y blaid yn berthnasol i bawb yng Nghymru, nid yn unig i siaradwyr Cymraeg.
Mewn cyfweliad dywedodd bod annibyniaeth yn syniad realistig ond fod yn rhaid i Blaid Cymru "ddod â phobl gyda ni."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2023