'Heriau' rhwng Llafur y DU a Chymru medd Syr Keir Starmer
- Cyhoeddwyd

Mark Drakeford a Keir Starmer yng nghynhadledd Llafur Cymru eleni yn Llandudno
Mae Syr Keir Starmer wedi cyfaddef na all "smalio" nad oes heriau yn ei berthynas â Llywodraeth Lafur Cymru.
Wrth siarad cyn cynhadledd y blaid Lafur, gwrthododd Syr Keir ailadrodd ei sylw blaenorol mai Llafur Cymru oedd ei "lasbrint" ar gyfer grym.
Dywedodd fod llawer am Gymru y mae'n "falch ohono".
Mae deddf 20mya diweddar Llafur Cymru wedi denu beirniadaeth ffyrnig, a deiseb a dorrodd record yn galw am ei dileu.
Glasbrint?
Gofynnwyd i Syr Keir ai Llywodraeth Lafur Cymru oedd y "glasbrint o hyd ar gyfer yr hyn y gallai Llafur ei wneud mewn llywodraeth ar draws y DU".
Roedd yn ymadrodd a ddefnyddiodd yng nghynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno y llynedd.
Dewisodd beidio â'i ailadrodd, gan ddweud: "Mae llawer o bethau'n digwydd yng Nghymru yr wyf yn falch ohonynt, y mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn ohonynt."
Mae dyfyniad Syr Keir yn Llandudno wedi cael ei ailadrodd gan y Ceidwadwyr sydd wedi rhybuddio - ymysg pethau eraill - y gallai arwain at gyflwyno deddf 20mya ar draws Lloegr, pe bai Llafur yn ennill yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

Dywedodd Syr Keir nad yw'r gwrthdaro rhwng llywodraethau Cymru a'r DU yn "helpu unrhyw un"
Dywedodd Syr Keir: "Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un sy'n gwylio hyn yn awgrymu nad oes heriau.
"Wrth gwrs mae yna heriau. Y cwestiwn yw sut ydyn ni'n ymateb i'r heriau hynny? A oes ffyrdd gwahanol o wneud hyn?
"Byddai llywodraeth Lafur newydd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i oresgyn yr heriau.
"Yr hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd yw llywodraeth San Steffan sydd mewn gwrthdaro cyson â Llywodraeth Cymru.
"Yn y diwedd, nid yw hynny'n helpu unrhyw un mewn gwirionedd.
"Felly dwi'n meddwl y byddai'n feddylfryd gwahanol, os ydyn ni'n gallu ennill yr etholiad cyffredinol."
'Gwallgofrwydd'
Mae nifer o ASau Llafur Cymru wedi mynegi pryderon yn breifat am y gyfraith 20mya.
Dywedodd un ei fod "yn achubiaeth" i'r Torïaid oedd yn "boddi".
Galwodd un arall y gyfraith newydd yn "wallgofrwydd".
Beirniadodd Syr Keir y Ceidwadwyr am ei disgrifio fel deddf sy'n ei gwneud hi'n 20mya ym mhobman.
Mae gan gynghorau lleol yng Nghymru y pŵer i eithrio ffyrdd o'r terfyn newydd.
Roedd hefyd yn ymddangos yn ddryslyd ynghylch y term a ffefrir gan Lywodraeth Cymru, sef "cyfraith ddiofyn", gan ddweud wrth BBC Cymru fod hynny'n anghywir.
Dywedodd Syr Keir fod 20mya yn "fater i brif weinidog Cymru".
Ychwanegodd mai "awdurdodau lleol" a "phobl leol" yn Lloegr ddylai benderfynu ble y dylai parthau 20mya fod.
Datgelodd hefyd fod ei "swyddfa" mewn cysylltiad cyson â phrif weinidog Cymru, ac wrth gael ei holi ymhellach, ei fod ef a Mr Drakeford yn siarad "yn eithaf aml".
Mae Mr Drakeford wedi bod yn feirniad cyson o'r hyn y mae hi'n ei weld fel diffyg cyfathrebu gan Lywodraeth Geidwadol bresennol y DU.
'Newid ei feddwl eto'
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, fod y sylwadau diweddaraf yn enghraifft arall o Syr Keir yn newid ei feddwl.
"Yn amlwg, mae'r sylw ar Gymru gan wasg y DU wedi mynd yn rhy boeth iddo, ac mae wedi newid ei feddwl eto," meddai.
"Gobeithio, yn Lerpwl y penwythnos yma, y gall Mark a Keir gael sgwrs a sicrhau fod GIG Cymru yn flaenoriaeth i Lafur - nid mwy o wleidyddion na therfyn cyflymder 20mya ym mhobman."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd26 Medi 2022