M4: Cerddwr wedi ei anafu mewn gwrthdrawiad difrifol

  • Cyhoeddwyd
Ciw m4Ffynhonnell y llun, Traffig Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na oedi i'r ddau gyfeiriad ar yr M4 fore Mercher

Mae cerddwr wedi cael anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ar draffordd yr M4.

Dywed Heddlu De Cymru eu bod yn ymchwilio i wrthdrawiad rhwng cerddwr, Kia glas a cherbyd nwyddau trwm gwyn am tua 02:15 fore Mercher.

Mae'r cerddwr mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Cafodd rhan o'r draffordd ei chau i'r ddau gyfeiriad wedi'r digwyddiad, ond bellach mae'r lon i'r dwyrain wedi ail-agor.

Mae'r ffordd dal ynghau i'r gorllewin rhwng cyffyrdd 38 ym Margam a 39 yn Y Groes.

Mae'r heddlu'n rhybuddio gyrwyr i osgoi'r ardal.

Pynciau cysylltiedig