Beirniadaeth o iaith Mike Phillips yn 'siom ac embaras'

  • Cyhoeddwyd
Mike PhillipsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r BBC yn deall bod Llinos Griffin-Williams wedi ymosod yn eiriol ar gyn-chwaraewr rygbi Cymru, Mike Phillips

Mae dau sy'n gweithio ym maes dysgu a chyfieithu Cymraeg wedi mynegi eu siom yn dilyn adroddiadau i un o gyn-uwch-swyddogion S4C feirniadu safon Cymraeg cyn-chwaraewr rygbi Cymru, Mike Phillips.

Mae Llinos Griffin-Williams wedi cael ei diswyddo gan y sianel yn dilyn honiadau o "gamymddwyn difrifol" mewn bariau yn Ffrainc y penwythnos diwethaf.

Mae BBC Cymru yn deall i Ms Griffin-Williams ymosod yn eiriol ar Mike Phillips, gan ddweud nad oedd ei Gymraeg o safon ddigon da, ac y gallai hi ddod â'i yrfa i ben.

Yn siarad ar raglen Bore Sul BBC Radio Cymru gyda Betsan Powys dywedodd Helen Prosser a Gwyn Williams fod y mater yn "siom" ac "embaras".

'Rhan annatod o'r arlwy'

Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Mae hybu a hyrwyddo y defnydd o'r Gymraeg i bawb yn greiddiol i bob dim y mae S4C yn ei wneud.

"Rydym wedi cael ymateb gwych i'n arlwy o Gwpan Rygbi'r Byd ac mae Mike Phillips wedi chwarae rhan annatod yn hynny."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llinos Griffin-Williams wedi cael ei diswyddo gan y sianel yn dilyn honiadau o "gamymddwyn difrifol"

Dywedodd Gwyn Williams, arbenigwr ar gyfathrebu a phrif swyddog Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru: "Neithiwr oedd y cyfle cyntaf i fi weld y rhaglen yn fyw, ac o'n i'n meddwl bod Mike Phillips yn grêt.

"O'n i'n meddwl bod o'n ffantastig, oedd o'n dod â barn, oedd o'n dod â phrofiad, ac oedd o'n dod â hiwmor i'r holl beth.

"'Sa'n ffantastig tasan ni gyd yn siarad mewn cynghanedd lawn, ond dydan ni ddim - dydw i ddim, fedra i ddim.

"Ma' well genna i Gymraeg slac na Saesneg slic, a dyna fy marn i am y peth.

"Dwi'n meddwl mae'r holl beth yn hynod siomedig, yn hynod o embaras bod y math beth wedi digwydd."

Daw'r newyddion wrth i ymchwiliad annibynnol i honiadau o fwlio staff S4C gan swyddogion barhau.

Ychwanegodd Mr Williams ei fod ef wedi rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad hwnnw, a'i fod yn edrych ymlaen at weld yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi "cyn gynted â phosib".

Disgrifiad o’r llun,

"Diolch byth, mae trwch y bobl yn dod mas i gefnogi," meddai Helen Prosser

Dywedodd Ms Prosser - cyfarwyddwr dysgu ac addysgu yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a chadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024 - bod "Cymraeg naturiol, hyfryd, gyda Mike Phillips".

Ychwanegodd ei bod yn siom i stori o'r fath ddenu sylw, yn enwedig a hithau wedi bod yn Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg yr wythnos hon.

"Diolch byth, mae trwch y bobl yn dod mas i gefnogi," meddai.

Effaith ar ddysgwyr?

Ychwanegodd Mr Williams ei fod yn poeni am yr effaith y gallai sylwadau negyddol am safon iaith pobl amlwg ei gael ar hyder y rheiny sy'n dysgu.

Cyfeiriodd hefyd ar y feirniadaeth o ddwy flynedd yn ôl am safon iaith John Hartson ar raglen Sgorio.

"Yn ddiweddar 'naeth o [Mike Phillips] sôn bod o'n poeni am ei Gymraeg," meddai Mr Williams.

"Mae'n byw allan yn Dubai, a 'da ni'n gwybod pa mor anodd ydy cynnal eich Cymraeg os 'da chi'n byw dramor.

"Os ydi hyn yn digwydd i bobl cryf, uchel eu proffil fel hyn, sut effaith mae hyn yn ei gael ar bobl sy'n dysgu Cymraeg - sydd ddim yn siŵr os ydi eu Cymraeg nhw'n ddigon da?"

Mae BBC Cymru wedi cysylltu â Ms Griffin-Williams a Mike Phillips yn gynharach yr wythnos hon i ofyn am eu hymateb.

Pynciau cysylltiedig