'Dim digon o gymorth' i blant ag anghenion iaith a lleferydd

  • Cyhoeddwyd
plentynFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 'na alw am fwy o gefnogaeth i blant yng Nghymru sy'n byw gydag anhwylder iaith datblygiadol.

Yn ôl Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd yng Nghymru, mae'n gyflwr gydol oes lle nad yw plant yn datblygu eu sgiliau iaith yn ôl y disgwyl.

Y gred, yn ôl y Coleg, yw bod dau allan o bob 30 plentyn yn byw gyda'r anhwylder.

I un fam o Wynedd, cael diagnosis o'r cyflwr a chymorth yn yr ystafell ddosbarth yn gynnar ydy'r allwedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod "hyfforddiant ac adnoddau sylweddol" ar gael i athrawon, yn ogystal â £9.1m "er mwyn i awdurdodau lleol ddarparu adnoddau ychwanegol i gefnogi dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol".

Beth yw anhwylder iaith datblygiadol?

Yn ôl Carys Roberts, therapydd iaith a lleferydd yng Ngwent, mae'r anhwylder yn "gyflwr cudd" sy'n golygu "anhawster gydag iaith a lleferydd sydd ddim yn rhan o unrhyw gyflwr arall".

"Ry'n ni'n gwybod bod athrawon ddim yn gwybod lot am anghenion iaith a lleferydd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Carys Roberts yn therapydd iaith a lleferydd yng Ngwent

Mae Carys yn cynnig hyfforddiant i athrawon er mwyn teilwra gwersi ar gyfer plant gyda'r anhwylder.

"Mae'n hollbwysig i'r plant yma bo' ni'n rhoi amser iddyn nhw."

Pryder Caroline Walters, o Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd yng Nghymru, yw diffyg pobl fel Carys.

"Mae gyda ni llai o therapyddion fesul y pen yng Nghymru na sydd ganddom ni mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac mae hwnnw'n fater o bryder i ni," meddai.

"Ni'n gwybod bod pob proffesiwn yn galw am fwy ohonyn nhw, ond yn achos therapyddion lleferydd ac iaith, ni yn teimlo bod e'n urgent iawn - ni eisiau gweld buddsoddiad."

'Methu cael ei eiriau allan'

I Wyn, nid ei enw iawn, o Wynedd, chwarae pêl-droed a rygbi gyda'i ffrindiau sy'n ei blesio.

Ond i'r disgybl "hyderus a hapus" 10 oed, dyw ei ddatblygiad yn yr ysgol gynradd ddim wastad wedi bod yn hawdd.

Roedd ei fam, Sharon, nid ei henw iawn, wedi dechrau cwestiynu datblygiad Wyn yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol feithrin.

"Doedd o ddim yn hitio'r targedau... doedd o ddim yn gwrando," meddai Sharon.

"Weithiau, pan mae o'n mynd yn upset, fedrith o ddim cael ei eiriau fo allan.

"Weithiau 'di Wyn jyst ddim yn dallt. O'n ni'n lwcus mi gath o ei ddiagnosis yn ifanc iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Caroline Walters yn dweud bod angen mwy o fuddsoddiad o fewn y diwydiant

Er bod Wyn yn mwynhau yn yr ysgol erbyn hyn ac yn bwrw ei dargedau, mae gan Sharon bryderon am ddealltwriaeth athrawon o'r cyflwr.

"Mae'r support yn yr ysgol wedi bod yn hit and miss dros y blynyddoedd," meddai, gan ychwanegu bod cyfnod y pandemig wedi bod yn heriol iawn.

Er ei fod wedi cael cymorth yn yr ysgol, mae teulu Wyn wedi talu am wersi ychwanegol dros y pum mlynedd diwethaf, gan roi'r gorau i wyliau a cheir newydd er mwyn ariannu'r sesiynau yn breifat.

"Ti'n ffeindio'r pres, 'dwyt? Dim ond un siawns o addysg sydd gan yr hogyn 'ma.

"Mae o'n gorfod gweithio'n galetach yn academaidd."

Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi buddsoddi £9.1m er mwyn i awdurdodau lleol ddarparu adnoddau ychwanegol i gefnogi dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, a allai gynnwys therapi lleferydd ac iaith."