Covid wedi cael 'effaith andwyol' ar therapi lleferydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
plentynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod traean o therapyddion lleferydd wedi eu hadleoli yn ystod y pandemig

Fe gafodd y cyfnod clo cyntaf "effaith andwyol iawn" ar rai plant a oedd angen gwasanaeth therapi lleferydd ac iaith yn y gogledd, yn ôl adroddiad newydd.

Clywodd ymchwiliad fod rhai wedi colli unrhyw gynnydd a wnaed, a hynny mewn "cyfnod allweddol o'u datblygiad".

Yn ôl swyddogion Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru (CICGC) fe wnaeth sesiynau therapi o'r fath stopio bron yn llwyr rhwng Mawrth 2020 - pan ddechreuodd y cyfnod clo cynaf - a mis Medi'r un flwyddyn.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro am yr amharu, gan ddweud fod staff yn gweithio yn galed i helpu'r rhai a fethodd sesiynau yn ystod y cyfnod dan sylw.

Yn ogystal â sgiliau iaith, mae therapyddion hefyd yn gweithio gyda phobl sy wedi cael strôc, a rhai sydd ag anableddau dysgu.

Dywedodd un fam o Lanelwy nad oedd yna unrhyw gysylltiad o gwbl rhwng y gwasanaeth a'i mab chwech oed pan ddechreuodd y pandemig.

"Roedd y cyfnod yn anodd i bawb, ond fe allai rhywbeth fod wedi cael ei gynnig," meddai Karen.

Mae ei mab, Ed yn cael problem gwahaniaethau rhwng rhai llythrennau fel 'th' ac 'n'.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Karen yn poeni am yr effaith hirdymor y bwlch mewn gwasanaeth ar ei mab, Ed

"Rwy'n gobeithio y bydd ei broblem yn cael ei datrys, ond be' sy wedi digwydd wrth iddo fynd yn hŷn yw bod plant eraill yn dechrau gwneud sylwadau.

"Fy nghonsyrn yw pe na bai pethau yn cael eu sortio'n fuan, yna bydd yn dechrau effeithio ar ei hyder."

Dywedodd nifer o rieni wrth yr ymchwiliad eu bod yn credu y gellir defnyddio mwy ar dechnoleg fideo ar y pryd er mwyn cadw cysylltiad gyda'r plant.

Dywedodd Geoff Ryall Harvey, prif swyddog CICGC fod nifer o rieni yn poeni fod eu plant wedi colli'r gwasanaeth ar gyfnod allweddol yn eu datblygiad.

"Roedd rhai o'r rheini yn teimlo fod eu plant wedi colli unrhyw gynnydd o'r misoedd blaenorol, a bod yr effaith ar eu datblygiad yn ddifrifol."

Cymorth i wardiau Covid

Dywedodd Gareth Evans, cyfarwyddwr gweithredol dros dro Therapïau a Gwyddorau Iechyd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, mai nhw ofynnodd i'r cyngor iechyd cymuned gasglu barn defnyddwyr.

"Er mwyn cadw cleifion a staff yn ddiogel fe wnaethon ni ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, gan atal gofal oedd wedi ei gynllunio ar adegau penodol yn ystod y pandemig," meddai.

"Roedd traean o staff therapi lleferydd ac iaith wedi eu hadleoli yn ystod y don gyntaf o'r pandemig er mwyn rhoi cymorth i wasanaethau allweddol, fel wardiau Covid."

Dywedodd fod technoleg wedi ei ddefnyddio pan oedd ar gael, a bod llinellau cymorth wedi eu sefydlu er mwyn cynorthwyo teuluoedd.

Ychwanegodd: "Mae yna gydnabyddiaeth fod prinder staff therapyddion lleferydd ac iaith ar draws y DU ac rydym yn gweithio'n galed i ddenu staff newydd, gan gynnwys therapyddion Cymraeg eu hiaith i gefnogi ein cymunedau Cymraeg."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Caroline Walters ei bod yn "hyderus y bydd pethau'n gwella"

Dywedodd Caroline Walters, rheolwr gyda Choleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith, fod y pandemig wedi achosi problemau eraill.

"Ni'n ymwybodol fod rhan fwyaf o'r cyfeiriadau atom ni'n dod o leoliadau gofal plant - o'r ysgolion, ymwelwyr iechyd," meddai.

"Wrth gwrs ar ddechrau'r pandemig roedd lot o'r llefydd yna wedi cau neu'n cynnig llai o wasanaeth, felly yn sicr roedd llai o gyfleoedd i adnabod y problemau yna yn gynnar.

"Ond ar y llaw arall, i rai plant mae wedi bod yn help iddyn nhw fod gartre' gyda mam a dad, neu bwy bynnag sy'n gofalu amdanyn nhw, a chael y cyfle i siarad mwy.

"Rhieni yw athrawon cyntaf plant bach ac maen nhw'n chwarae rôl hollol allweddol."

Ychwanegodd ei bod yn hyderus y bydd pethau'n gwella.

"Fe fydd hi'n cymryd amser heb os, ond be' ni eisiau sicrhau yw bo' ni'n rhan o'r cynllunio gweithlu at y dyfodol a gwneud yn siŵr fod gennym ni weithlu therapyddion lleferydd ac iaith sy'n cwrdd ag anghenion pobl Cymru at y dyfodol."