Enwau Lleoedd Cymraeg yr Hen Ogledd
- Cyhoeddwyd
Mae nifer ohonom wedi clywed am yr Hen Ogledd - y darn o dir hynny lle'r oedd fersiwn hynafol o'r Gymraeg yn cael ei siarad. Heddiw, mae'r ardal yn rhan o ogledd Lloegr a de'r Alban
Mae ein hiaith wedi diflannu oddi yno bellach, wrth gwrs, ond fel yr eglura Dr Guto Rhys, mae olion ohoni'n parhau ar arwyddion a mapiau...
Cofio grym y gorffennol
Erbyn hyn mae Cymreictod yr Hen Ogledd yn rhan greiddiol o'n syniadau am ein hunaniaeth a'n hanes. Mae'n debyg bod llawer ohonoch, fel myfi, wedi dysgu'r gerdd ganlynol wrth astudio Cymraeg i lefel O ac yn dal i fedru ei hadrodd:
Gwŷr a aeth Gatraeth oedd ffraeth eu llu
Glasfedd eu hancwyn a gwenwyn fu
Trichant trwy beiriant yn catáu
Ac wedi elwch tawelwch fu.
Mae'n gerdd sy'n crynhoi teimladau'r Cymry am eu hanes, sef ein bod yn weddillion pobl a fu unwaith yn llawer mwy grymus ac a feddai diroedd eang a gollwyd - pobl ddewr a ymladdodd yn ffyrnig dros eu hunaniaeth.
Mae llawer yn gwybod yn fras yr hanes am ymgyrch ddewr ond aflwyddiannus y Gododdin yn erbyn y gormeswyr Sacsonaidd. Mae'r gwirionedd, serch hyn, yn fwy dyrys ac yn fwy diddorol. Mae'n debyg mai mab i Sais oedd arweinydd milwrol y cyrch, sef un o'r enw Urfei fab Golystan. Ffurf ar yr enw Germanaidd Wolfstan yw 'Golstan', o'r Hen Gymraeg 'Wol(f)stan'.
Hefyd, mae'n bur debyg nad un o'r cerddi gwreiddiol a ganwyd lle saif castell Dineiddyn (Caeredin) yw hon, ond ychwanegiad o'r cyfnod pan genid 'Y Gododdin' yn llysoedd Gwynedd, cân o'r nawfed ganrif efallai.
Enwau lleoedd wedi goroesi
Ond mae rhywbeth digon sicr wedi goroesi o'r teyrnasoedd Brythoneg brodorol a reolai llawer o ogledd Prydain yn y cyfnod ôl-Rufeinig, sef enwau lleoedd.
Wedi cwymp grym Rhufain ddechrau'r bumed ganrif datblygodd teyrnasoedd annibynnol yn ucheldiroedd Prydain, wrth i'r Eingl-Sacsoniaid feddiannu'r tiroedd yn y De-ddwyrain. Yn y cyfnod hwn datblygodd y Frythoneg, yn weddol sydyn rhwng y blynyddoedd 400-600. Un o'r ffactorau pwysig yn hyn o beth oedd i nifer helaeth o Rufeinwyr orfod dod i siarad Brythoneg, a hynny yn bur sydyn. Gwnaethant hyn yn amherffaith gan esgor ar y Frythoneg.
Yn raddol yn y Gogledd teyrnas Northumbria a ddaeth i reoli'r rhan fwyaf, ac edwinodd y Gymraeg. Goresgynwyd neu ymgorfforwyd teyrnasoedd fel Elfed (c. 627), Gododdin (c. 638) a Rheged. Ond bu i un oroesi, sef teyrnas Âl-clud (The Rock of Dumbarton), ger Glasgow.
Cwympodd y gaer fawreddog ac aruchel hon yn y flwyddyn 870, ar ôl gwarchae hir gan Lychlynwyr. Ond yr hyn sy'n rhyfeddol yw i olynydd Brythoneg y deyrnas hon, sef Ystrad Clud, yn ystod y ganrif ddilynol ddod i reoli rhan helaeth o ogledd-orllewin Prydain, o Lyn Llumonwy (Loch Lomond) i Ardal y Llynnoedd, a gyda'r ymestyniad gwleidyddol hwn daeth ymestyniad ieithyddol hefyd.
Symudodd siaradwyr Brythoneg i'r de, ac efallai hefyd i'r dwyrain. Felly mae sawl haen i'r enwau lleoedd hyn gyda rhai yn gynnar ond rhai yn deillio o gyfnod twf y deyrnas. Mae gwaith trylwyr yr ysgolhaig Dr Alan James (BLITON, dolen allanol) wedi crynhoi rhai cannoedd o'r rhain.
O Aber i Llannerch...
Beth am edrych ar rai o'r enwau hyn gan gofio bod rhaid troedio'n ofalus iawn gydag enwau lleoedd a gofnodwyd gyntaf mewn dogfennau mewn ieithoedd eraill, beth amser wedi marw'r iaith. Nodaf rai elfennau a rhai enwau penodol. Rhaid cofio hefyd mai math o Hen Gymraeg a siaredid yn y gogledd.
Aber: Abercorn (+carn), Aberdour, Aberlady
Allt: Alt, Auldbreck (+brith)
Afon: Avon (x2)
Ban (cf Tryfan, Bannau Brycheiniog) 'bryn fel corn': Bannock(burn). O bannog.
Blaen - rhan uchaf afon neu ddyffryn, pen-draw: Blantyre (+tir). Blencarn (+carn), Blencogo (+cogau 'y gwcw'). Blenket (+coed), Blindcrake (+craig)
Brân: Bran Burn
Bryn/Pren: Barnbougle (+bugail), Brinns, Bryn, Bryn Hill
Cadair: Cadder
Caer: Cardew (+du), Cardowan (+dwfn)
Caled: Calder (x6; caled+dŵr), Callendar; fel Clettwr yng Nghymru.
Cam: Cam Beck, Camling (+llyn), Cammock (+-og)
Carn - pentwr o gerrig: Cairndinnis (+dinas), Cairnpapple Hill (+pebyll)
Coed: Bathgate (baedd)
Llannerch - lle agored mewn tir coediog: Barlanark (baedd)
Pryd bu farw'r Frythoneg yn yr Hen Ogledd?
Cwestiwn dyrys iawn. Diflanna'r deyrnas o'r cofnodion tua 1060, ond mae un enw lle sy'n cynnig ateb.
Saif Lanercost rhyw 12 millitir i'r gogledd-ddwyrain o Gaerlywelydd (Carlisle). Yn wreiddiol priordy urdd fynachaidd yr Awgwstiniaid oedd, un a sefydlwyd tua 1170, ac mae'r cliw yn yr enw. Saif Lanerc am 'llannerch' sef lle agored mewn coedwig. Beth am yr -ost. Mae'n anodd tybio nad yw hwn yn cynrychioli August, sef enw sefydlydd yr urdd hon.
Cymharwch â'r Gymraeg lle datblygodd y Lladin August yn Awst. Llannerch-Awst fyddai'r enw felly.