Storm Babet: Cyngor yn rhybuddio pobl i aros dan do
- Cyhoeddwyd

Roedd y cerbydau yma'n sownd yn ardal Nannerch, Sir y Fflint
Mae Cyngor Sir Powys wedi galw ar drigolion i aros yn eu cartrefi wrth iddyn nhw geisio delio ag effeithiau Storm Babet.
Mae rhybudd melyn am law trwm mewn grym ar hyd siroedd y gogledd a'r canolbarth, ynghyd â rhannau o Sir Gâr a Sir Fynwy, ers hanner nos.
Bydd yn para trwy dydd a nos Wener tan 06:00 fore Sadwrn.
Dywedodd Cyngor Powys bod nifer o ffyrdd wedi eu rhwystro, a bod y llifogydd yn ei gwneud hi'n anodd iawn i gyrraedd rhai trefi a phentrefi.
Mewn datganiad, dywedodd y cyngor fod staff yn gweithio'n galed i ddelio ag effeithiau'r storm, ond eu bod yn annog pobl i aros dan do am y tro, ac i beidio â theithio oni bai fod hynny yn hanfodol.
'Peidiwch teithio'
Mae sawl rhybudd llifogydd mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol, ar hyd y gogledd a Phowys.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhybuddio bod llifogydd yn achosi trafferthion ar nifer o ffyrdd yn yr ardal, ac wedi galw ar bobl i beidio â theithio os nad oes rhaid.
Dywedodd y llu eu bod nhw wedi derbyn nifer o adroddiadau bod cerbydau wedi mynd yn sownd ar ffyrdd rhwng y Drenewydd, y Trallwng, Llanidloes a Llandinam.

Ym Mrychdyn, Sir y Fflint, dyma oedd yr ail waith i gartrefi weld llifogydd mewn ychydig dros dwy flynedd
Roedd dros 50 o ysgolion Sir Y Fflint ar gau, dolen allanol oherwydd y tywydd garw, gan gynnwys dwy ysgol uwchradd Yr Wyddgrug, sydd wrth ymyl ei gilydd.
Bu'n rhaid cymryd y cam, medd datganiad gan Ysgol Maes Garmon, "oherwydd llifogydd eithafol yn ardal yr ysgol".
Dywedodd pennaeth yr ysgol, Bronwen Hughes: "'Da ni wedi cael diwrnod digon heriol rhaid i mi ddeud... erbyn tua 8:30 roedd nifer o ffyrdd o gwmpas yr ysgol dan ddŵr a'r heddlu wedi cau ffyrdd yn y dre, oedd yn golygu bod bysiau methu cyrraedd yr ysgol gyda'n dysgwyr.
"Tyda ni erioed wedi gorfod cau oherwydd glaw - wrth gwrs da ni wedi arfer gorfod cau oherwydd eira - ond ma' glaw yn rhywbeth newydd i ni yn y dref.

"Dydi hi ddim yn benderfyniad hawdd i gau'r ysgol oherwydd 'da ni'n gwybod bod 'na effaith yn mynd i fod ar ein dysgwyr, rhieni, gofalwyr a staff, ond doedd 'na ddim ffordd y byse ni wedi gallu agor yr ysgol.
"Roedd ein rhieni yn amyneddgar iawn a phawb wedi cyrraedd adref yn ddiogel."
Yn achos Ysgol Uwchradd Alun bu'n rhaid cau "oherwydd llifogydd sylweddol y bore 'ma yn yr adeilad".
Cadarnhaodd Cyngor Powys ddechrau'r prynhawn bod dwy ysgol yn Y Trallwng yn cau am weddill y dydd.
Dywedodd Lowri Mitton o Eglwys Ebeneser Yr Wyddgrug fod y sefyllfa yn yr ardal yn "dorcalonnus"
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynghori gyrwyr "i gymryd pwyll ychwanegol" wrth deithio ar draws y rhanbarth yn ystod y dydd.
Dywedodd eu bod yn derbyn "nifer o adroddiadau o lifogydd ar y ffyrdd, gan gynnwys yn ardaloedd Yr Wyddgrug, Dinbych a'r Rhyl".
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi derbyn nifer uchel o alwadau yn ymwneud â llifogydd - y mwyafrif yn Sir y Fflint, a rhai yn Sir Ddinbych.
Mae'r mannau ble mae tai ac adeiladau wedi dioddef llifogydd yn cynnwys Yr Wyddgrug, Bwcle, Brychdyn, Dinbych a Llanelwy, ble mae Afon Elwy wedi gorlifo'i glannau.

Dyma'r eildro mewn ychydig flynyddoedd, medd Y Parchedig Ben Midgley, i rai o bobl y dref orfod gadael eu cartrefi wedi llifogydd
Mae canolfan yn cael ei sefydlu yn Eglwys Ebeneser Yr Wyddgrug ar gyfer unrhyw un sydd wedi eu heffeithio, gan gynnig lloches, paneidiau a chymorth i'r rhai na fydd yn gallu dychwelyd yn syth i'w cartrefi.
Dywedodd y Parchedig Ben Midgley bod "pawb yn tynnu at ei gilydd yn wych" mewn ymateb i' "sefyllfa anodd".
"Gallwch chi ddychmygu pa mor gynhyrfus ac isel mae pobl o gael eu tynnu o'u cartrefi, yn rhai achosion am yr eildro mewn cwpl o flynyddoedd.
"Maen nhw'n gwybod beth sydd o'u blaenau."

Mae Afon Elwy wedi gorlifo yn Llanelwy, Sir Ddinbych
Roedd y Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio bod risg i'r amodau achosi llifogydd, difrod i adeiladau a thrafferthion i yrwyr a theithwyr bysiau a threnau.
Mae'r arbenigwyr wedi darogan dros 100mm o law yn rhannau o ogledd Cymru, yn arbennig yn Eryri, wrth i fand o law cyson deithio tua'r de o ogledd Lloegr.
Roedd hefyd disgwyl i wyntoedd cryfion o'r dwyrain waethygu'r sefyllfa.

Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer holl siroedd y gogledd a'r canolbarth, ac yn ymestyn i Sir Gâr a Sir Fynwy hefyd
Dywedodd Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru bod criwiau'n hynod brysur yn delio gyda sawl digwyddiad yn ymwneud â llifogydd.
Ychwanegodd y gwasanaeth eu bod yn atgoffa gyrwyr o'r peryglon o geisio gyrru drwy lifogydd, gan annog pobl i gynllunio teithiau o flaen llaw.
Gyda'r rhybudd glaw hefyd yn effeithio ar rannau o ogledd Lloegr mae'r sefyllfa'n amharu ar wasanaethau trên y gogledd gan fod llinellau rhwng Caer a Crewe, a rhwng Wrecsam a Bidston, wedi cau.
Cadarnhaodd cwmni Arriva amser cinio fod holl wasanaethau bws y sir wedi cael eu canslo oherwydd yr amodau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2023