Adran Dau: Casnewydd 3-3 Walsall

  • Cyhoeddwyd
Rodney Parade at nightFfynhonnell y llun, Huw Evans agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi'n bwrw goliau ar Rodney Parade nos Wener

Roedd yn rhaid i'r Alltudion fodloni ar bwynt mewn gêm llawn goliau ar Rodney Parade nos Wener.

Aeth tîm Graham Coughlan ar y blaen gydag ond pedwar munud ar y cloc diolch i ergyd nerthol Bryn Morris, ond unionwyd y sgôr ond 12 munud yn ddiweddarach gyda gôl Freddie Draper i'r ymwelwyr.

Gydag ond eiliadau i fynd tan yr egwyl fe rwydodd cyn-chwaraewr Y Bala a Met Caerdydd, Will Evans, ei ddegfed o'r tymor i roi'r Alltudion yn ôl ar y blaen.

Er i Walsall unioni'r sgôr unwaith eto diolch i gôl arall gan Draper wedi 54 munud, am sbel roedd hi'n ymddangos byddai ail gôl Morris gyda 22 munud i fynd yn ddigon i selio'r fuddugoliaeth.

Ond Draper oedd arwr Walsall ar y noson wrth sicrhau ei hat-tric gadag ond eilidau yn weddill, gan sicrhau nad oedd ei dîm yn teithio nôl i ganolbarth Lloegr yn waglaw.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Casnewydd bellach yn yr 16eg safle o flaen gweddill gemau'r penwythnos.