Adran Dau: Bradford 1-1 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Richard Smallwood a James JonesFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Richard Smallwood a James Jones yn cystadlu am y bêl

Roedd gôl hwyr Adam Wilson yn golygu mai rhannu'r pwyntiau oedd tynged Bradford City a Wrecsam o flaen torf o 21,552.

Di-sgôr oedd hi ar yr egwyl yn dilyn hanner cyntaf ffyrnig lle gafodd pum cerdyn melyn eu dangos, gan gynnwys un i Paul Mullin wedi ond dau funud.

Aeth Bradford yn agos pan gafodd ergyd Jamie Walker ei throi yn erbyn y postyn gan golwr y Dreigiau, Arthur Okonkwo.

Llwyddodd Mullin i benio croesiad Ryan Barnett i roi'r Dreigiau ar y blaen, ond unionwyd y sgôr diolch i ergyd Wilson - ei gôl gyntaf i'r Bantams - gydag ond pum munud i fynd.