Rhieni 'yn y tywyllwch' wrth i athrawon Ysgol Cil-y-coed streicio

  • Cyhoeddwyd
Rhieni
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhieni wedi cwyno bod diffyg gwybodaeth yn cael ei rannu am yr hyn sy'n mynd ymlaen

Dywed rhieni eu bod wedi cael eu gadael "yn y tywyllwch" oherwydd anghydfod mewn ysgol ble mae athrawon wedi bod yn streicio.

Mae staff yn Ysgol Gyfun Cil-y-coed wedi cerdded allan mewn protest ddwywaith ers mis Medi dros yr hyn maen nhw'n honni sy'n fethiant i fynd i'r afael â thrais a chamdriniaeth.

Mae aelodau o undeb NASUWT hefyd yn gwrthod addysgu rhai disgyblion maen nhw'n ystyried yn risg i staff yr ysgol, sydd â 1,300 o blant.

Dywed Cyngor Sir Fynwy eu bod yn gweithio gyda'r ysgol a'r undebau ac yn ymroddedig i ddatrys y sefyllfa.

Disgrifiad o’r llun,

Mae staff yn Ysgol Gyfun Cil-y-coed wedi cerdded allan mewn protest ddwywaith ers mis Medi

Mae Jon, rhiant sydd â phlant yn yr ysgol, wedi dechrau deiseb yn gofyn am gyfarfod agored i rieni gyda'r awdurdod lleol a rheolaeth yr ysgol.

Mae'n dweud bod diffyg gwybodaeth wedi bod, a bod hynny wedi gwneud pethau'n anodd fel rhieni.

"Y cyfan rydyn ni wedi cael gwybod yw bod yr athrawon yn poeni am eu diogelwch, sydd wedi golygu o ganlyniad ein bod ni wedi bod yn bryderus am ddiogelwch ein plant," meddai.

"Rydyn ni eisiau gweld polisïau sy'n ymwneud ag ymddygiad yn cael eu cyflwyno fel eu bod nhw'n teimlo'n ddiogel… ac rydyn ni'n teimlo'n hyderus bod ein plant yn mynd i le diogel i ddysgu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jon eisiau cyfarfod agored i rieni gyda'r awdurdod lleol a rheolaeth yr ysgol

Mae David, sydd hefyd â phlant yn yr ysgol, yn dweud eu bod nhw fel rhieni wedi cael eu "gadael yn y tywyllwch" am yr hyn sy'n digwydd.

"Mae pobl yn poeni. Maen nhw'n poeni am eu plant yn colli'r ysgol. Maen nhw'n poeni am ddiogelwch yr ysgol.

"Mae pethau'n digwydd. Maen nhw'n digwydd ym mhob ysgol. Ond mae'n ymddangos nad ydyn nhw'n cael eu trin yn iawn yma."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd David bod rhieni yn "poeni am ddiogelwch yr ysgol"

Dywed undebau athrawon fod pryderon wedi dod i'r amlwg gyntaf yn 2019, sydd bellach wedi arwain at weithredu diwydiannol gan undebau'r NASUWT a'r NEU.

Mae dwy streic wedi bod ar 21 Medi a 25 Hydref, a arweiniodd at gau'r ysgol i ddisgyblion.

Dywedodd yr undeb nad yw ymddygiad yn Ysgol Cil-y-coed yn eithafol o gymharu ag ysgolion eraill ar draws y wlad, ond maen nhw'n honni nad yw'r rheolwyr wedi ymateb yn effeithiol i'r problemau.

Mae undeb NASUWT yn galw ar yr awdurdod lleol "i gamu i mewn".

'Sefyllfa gymhleth a sensitif'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Fynwy: "Rydym yn deall yn iawn pa mor rhwystredig mae rhieni yn teimlo. Y peth olaf rydyn ni eisiau yw i ddisgyblion golli unrhyw amser yn dysgu.

"Rydym yn canolbwyntio ar ddatrys y sefyllfa gymhleth a sensitif hon ar fyrder."

Cadarnhaodd y cyngor hefyd nad yw'r pennaeth yn gweithio ar hyn o bryd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru na oedden nhw'n "ymwneud yn uniongyrchol â'r anghydfod hwn gan ei fod yn fater i'r corff cyflogi ei ddatrys gyda'r Undeb Llafur".

Mae streiciau pellach ar y gweill, y nesaf ar 15 Tachwedd.

Pynciau cysylltiedig