Adran Dau: Gillingham 0-2 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Omar BogleFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Omar Bogle ddwywaith mewn 7 munud yn yr hanner cyntaf

Daeth rhediad sâl diweddar Casnewydd i ben gyda buddugoliaeth o 2-0 oddi cartref yn erbyn Gillingham.

Aeth yr Alltudion ar y blaen wedi 20 munud ar ôl i Omar Bogle gael ei dynnu i'r llawr yn y cwrt cosbi gan y golwr, Jake Turner.

Fe sgoriodd Bogle o 12 llath, ac yna saith munud yn ddiweddarach, fe sgoriodd ei ail o'r smotyn ar ôl i Matty Bondswell gael ei wthio gan Cheye Alexander.

Daeth y Cymro Johnny Williams yn agos at sgorio i'r tîm cartref, ond cafodd ei rwystro gan dacl wych gan Shane McLoughlin.

Wedi'r gôl gyntaf, daeth i'r amlwg bod y dyfarnwr wedi siarad gyda'r chwaraewyr a'r ddau reolwr wedi honiadau bod un o gefnogwyr Gillingham wedi ymddwyn mewn modd hiliol wrth i Bogle ddathlu'r gôl gyntaf.

Mae Casnewydd a Gillingham wedi cyhoeddi datganiadau yn beirniadu'r ymddygiad yn llwyr.

Mae Cynghrair Bêl-droed Lloegr wedi cadarnhau bod yr unigolyn wedi cael ei arestio.