Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Stormers 52-7 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Kieran HardyFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Kieran Hardy sgoriodd yr unig gais i'r Scarlets

Mae wythnos anodd i'r Scarlets yn Ne Affrica wedi dod i ben gyda cholled drom yn erbyn Stormers.

Ar ôl ildio naw cais yn erbyn y Bulls yn Pretoria y penwythnos diwethaf, doedd amddiffyn y Scarlets methu rhwystro Stormers rhag sgorio wyth arall yn Stellenbosch brynhawn Sadwrn.

Kieran Hardy sgoriodd yr unig gais i'r ymwelwyr a hynny wrth fanteisio ar gic gosb a gafodd ei chymryd yn sydyn yn gynnar yn yr hanner cyntaf.

Ond y tîm cartref wnaeth reoli'r chwarae o'r dechrau i'r diwedd.

Roedd Stormers wedi sicrhau pwynt bonws ar ôl 29 munud yn unig.

Sacha Feinberg-Mngomezulu, Marcel Theunissen (2), Clayton Blommetjies, Paul de Wet (2), Ben Loader a Courtnall Skosan sgoriodd y ceisiau i'r tîm o Dde Affrica.

Dywedodd Prif Hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: "Roedden nhw'n lawer cryfach na ni, mae hi mor syml â hynny.

"Roedden ni yn y gêm am y 15-20 munud cyntaf, ond fe fanteision nhw ar ein camgymeriadau.

"Dyma'r tro cyntaf i nifer o'r chwaraewyr hyn fod yn Ne Affrica erioed, ac mae'n rhaid i ni ddysgu gwersi o'r ddwy golled yma".

Pynciau cysylltiedig