Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Y Gweilch 34-31 Zebre
- Cyhoeddwyd
Fe lwyddodd y Gweilch i sicrhau buddugoliaeth a phwynt bonws wedi gornest hynod gyffrous yn erbyn Zebre yn Abertawe.
Yr ymwelwyr ddechreuodd orau, gyda'r asgellwr Simone Gesi a'r bachwr Luca Bigi yn sgorio dau gais cynnar.
Ond taro 'nôl yn sydyn wnaeth y Gweilch, gyda chais ardderchog gan Reuben Morgan-Williams.
Yr asgellwr Mat Protheroe sgoriodd yr ail gais i'r tîm cartref, wrth fanteisio ar gic wael gan faswr Zebre.
Cyn yr egwyl fe aeth yr ymwelwyr yn ôl ar y blaen wrth i Gesi sgorio am yr eildro wedi iddo wneud y mwyaf o gic glyfar gan Pierre Bruno.
Roedd y Gweilch ar dân ar ddechrau'r ail hanner, gyda'r cefnwr Max Nagy a'r prop Nicky Smith yn sgorio ceisiau i sicrhau pwynt bonws.
Roedd pedwerydd cais Zebre yn hynod ddadleuol, gyda Geronimo Prisciantelli yn cymryd cig gosb yn sydyn wrth i un o chwaraewyr y Gweilch geisio gadael y cae - wnaeth roi cyfle i Scott Gregory sgorio cais hawdd.
Roedd yna ail gais i Gregory cyn y chwiban olaf, ond roedd ciciau cosb Owen Williams yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth gyntaf tîm Toby Booth y tymor hwn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2023