Gyrrwr wedi marw mewn gwrthdrawiad un cerbyd ar yr A55
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod gyrrwr wedi marw mewn gwrthdrawiad un cerbyd yng Nghonwy fore Sadwrn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A55 ger Dwygyfylchi am tua 05:49, ond bu farw'r unigolyn yn y fan a'r lle.
Roedd y ffordd ar gau am rai oriau wrth i swyddogion ymchwilio i'r digwyddiad, ond mae'r lôn bellach wedi ailagor.
Mewn datganiad ar eu tudalen Facebook, dywedodd y Premier Group mai un o'u tacsis nhw oedd yn y gwrthdrawiad.
Ychwanegodd y cwmni eu bod nhw'n cydweithio gyda'r heddlu fel rhan o'r ymchwiliad, a'u bod yn cydymdeimlo gyda theulu'r unigolyn fu farw.
Mae Heddlu'r Gogledd yn gofyn i unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â lluniau dashcam all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad, i gysylltu â nhw.