Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Dreigiau 9-16 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Mason GradyFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Caerdydd bellach wedi ennill 17 gêm ddarbi yn olynnol

Mason Grady sgoriodd yr unig gais wrth i Gaerdydd gipio'r fuddugoliaeth mewn gêm agos yn erbyn y Dreigiau yn Rodney Parade.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi 10 munud diolch i gic gosb gan y maswr, Angus O'Brien.

Ond llai na deg munud yn ddiweddarach roedd Tinus de Beer wedi llwyddo gyda dau gic gosb i roi'r fantais i'r ymwelwyr.

Gydag ychydig dros hanner awr o'r gêm wedi ei chwarae, cafodd y fantais honno ei ymestyn diolch i gais y canolwr, Mason Grady.

Fe gasglodd Teddy Williams y bêl wedi gwaith amddiffynnol gwych gan Tomos Williams, cyn rhyddhau Grady a wibiodd i'r lein o 60 metr.

Cyn yr egwyl fe sgoriodd O'Brien ei ail gic gosb i'w gwneud hi'n 6-13.

Roedd hi'n gêm agos yn ail hanner hefyd, gyda'r ddau dîm yn ei chael hi'n anodd creu cyfleoedd clir.

Ychwanegodd de Beer driphwynt arall i gyfanswm Caerdydd gyda chwarter awr yn weddill.

Roedd O'Brien yn llwyddiannus gyda chic gosb arall yn y munudau olaf, ond er y pwysau hwyr ar amddiffyn Caerdydd, fe lwyddodd yr ymwelwyr i amddiffyn yn gadarn i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Mae Caerdydd bellach wedi ennill 17 gêm ddarbi yn olynol.

Pynciau cysylltiedig