Niferoedd 'calonogol' o bili-pala prin yng Ngheredigion

  • Cyhoeddwyd
Brith y GorsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae niferoedd Brith y Gors wedi disgyn drwy Gymru dros y degawdau

Mae niferoedd "addawol" o un o loÿnnod byw mwyaf prin y DU wedi cael eu darganfod yng Ngheredigion.

Mae niferoedd Brithion y Gors, a arferai fod yn gyffredin yn y DU, wedi disgyn 60% yng Nghymru ers y 1970au.

Ond mewn arolwg diweddar yng Ngheredigion, cafwyd hyd i 700 o weoedd oedd wedi'u creu gan lindys o wyau'r pili-pala prin.

Mae'r newyddion yn "galonogol iawn," yn ôl naturiaethwr a welodd ddirywiad y rhywogaeth yn ystod ei yrfa.

Mae'r niferoedd yn awgrymu fod y sir yn "parhau i fod yn faes allweddol ar gyfer y glöyn byw prin hwn," medd Dr Carol Fielding o Gyfoeth Naturiol Cymru.

Fe wnaeth yr arolwg gyfrif nifer y gweoedd sidan oedd wedi'u creu gan lindys o wyau Brith y Gors - hynny am fod y gweoedd yn haws i'w gweld na'r gloÿnnod byw eu hunain.

Fe gafodd gweoedd eu canfod ym mhob un o'r 12 safle oedd wedi'u cynnwys yn yr arolwg.

Mae hyn yn dangos fod "y ffydd a'r ymdrech" i achub y rhywogaeth "yn amlwg yn talu eu ffordd," medd y naturiaethwr Duncan Brown.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Bu'n loes i mi weld dirywiad mawr ynddo dros gyfnod fy ngyrfa fel naturiaethwr, gyda fy niweddar gyfaill Rhodri Dafydd yn gwneud ei orau i achub y boblogaeth ar Forfa Harlech."

Ond fe rybuddiodd bod yn rhaid cofio am rywogaethau prin eraill sydd ddim yn cael cymaint o sylw.

"Y peth i'w gofio ydy mai rhywogaeth dethol yw Brith y Gors, un o'r rhywogaethau sydd yn mwynhau adnoddau arbennig i'w warchod.

"Y pryder mwyaf yw'r hyn sy'n digwydd i'r myrdd o rywogaethau sydd ar drugaredd rhagluniaeth yn unig."

'Gwella gwytnwch ein hecosystemau'

Mae'r gloÿnnod byw yn ffynnu mewn porfeydd rhos - glaswelltir corsiog sydd i'w gael mewn ardaloedd iseldir, gan gynnwys Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a meysydd glo de Cymru.

Mae gorllewin a de Cymru bellach yn un o'r cadarnleoedd sy'n weddill ar gyfer y rhywogaeth hon yn y DU, medd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ond maen nhw'n rhybuddio mai colli a diraddio porfeydd rhos ers y '70au ydy un o'r rhesymau dros ddirywiad y glöyn byw hwn, a'u bod felly'n gweithio gyda pherchnogion ar sut i reoli'r tiroedd hyn:

"Mae'r gwaith rheoli tir hwn yn cefnogi ac yn gwella gwytnwch ein hecosystemau ac yn cynyddu bioamrywiaeth," medd Dr Fielding.

Cyfoeth Naturiol Cymru yng Ngheredigion, ynghyd â Butterfly Conservation, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru a chofnodwr gloÿnnod byw y sir, Paul Taylor, gynhaliodd yr arolwg.

Dywedodd Dr Fielding: "Rydym yn gobeithio arolygu y gloÿnnod byw llawn dwf ym mis Mai a Mehefin y flwyddyn nesaf, ar ôl i'r lindys ddeor, a pharhau i fonitro'n flynyddol."

Pynciau cysylltiedig