Pryder am lefydd parcio wrth godi tâl ar Brom Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Prom Aber
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prom Aberystwyth yn atyniad i ymwelwyr ac yn lle mae trigolion lleol yn ymweld i gerdded

Mae cynghorwyr Ceredigion yn ystyried cynnig i godi tâl am barcio ar y promenâd yn Aberystwyth.

Mae'r syniad wedi cythruddo rhai busnesau, ac mae rhai yn pryderu taw pobl leol fydd yn cael eu heffeithio waethaf gan nad oes digon o lefydd parcio yn y dref.

Doedd Cyngor Ceredigion ddim am wneud sylw.

Mae prom Aberystwyth yn denu pobl o bell ac agos am sawl rheswm - y ddringfa lan Consti, ymweld â'r pier a nifer o fannau i eistedd am fwyd.

Ond lle mae parcio? Mae'n gwestiwn mae nifer yn ei ofyn wrth ymweld â'r dref.

Ac fe allai mannau parcio am ddim yn Aberystwyth fynd yn fwy prin, wrth i'r cyngor sir ystyried codi tâl ar gyfer parcio ar y prom.

Mae'n gynnig, yn ôl rhai busnesau, allai gael effaith ar nifer y cwsmeriaid sy'n gwario'u harian yma.

Disgrifiad o’r llun,

Mae modd parcio ar hyn o bryd am gyfnodau am ddim

"Ni'n griw o 21 yn gweithio yma ar hyn o bryd," meddai Gareth Evans, rheolwr bwyty Baravin ar y ffrynt.

"Mae mwyafrif y bobl yna yn gorfod dod mewn i'r gwaith mewn cerbyd bob dydd neu bob yn ail ddydd, ac ma' nhw'n cael trafferth parcio fel ma' hi.

"Wedyn i orfod talu i ddod mewn i barcio er mwyn dod i'r gwaith, sai'n credu bod hwnna'n deg.

"Ar ben hynny wedyn, mae'r bobl sy'n dod ata i fel cwsmeriaid, mae rhai pobl yn dod ata i bob dydd am goffi bob bore. Eraill yn dod unwaith yr wythnos.

"Pwy bynnag yw'r cwsmeriaid hyn, ma' nhw'n mynd i ystyried bod rhaid iddyn nhw dalu am barcio ar ben dod ato ni.

"I rai pobl dyw e ddim yn rhywbeth ma' nhw'n gallu 'neud bob dydd i ddod i ymweld â lle fel ni. Mae'n treat."

'Y syniad ddim yn un dwl'

Ar hyn o bryd mae modd parcio am ddim ar hyd y promenâd - rhai mannau am awr, eraill am ddwy awr.

Y prif bryder o godi tâl am barcio yw taw pobl leol, sy'n byw mewn tai a fflatiau ar y ffrynt, fydd yn cael eu heffeithio'n bennaf.

Mae'r Cynghorydd Alun Williams yn cynrychioli ward Morfa a Glais ar Gyngor Ceredigion, sy'n cynnwys rhan o'r prom.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams nad yw'r syniad yn un dwl

"Mae'n rhaid i unrhyw gynnig ar gyfer codi tâl am barcio ar y prom edrych ar drwyddedau parcio am ddim i bobl sy'n byw ar y stryd," meddai.

"Serch hynny dyw'r syniad ddim yn un dwl, o leia' parcio tymhorol."

I'r rhai sydd yn ceisio denu ymwelwyr dros nos i'r dref fel Richard Griffiths, perchennog gwesty'r Richmond ar y ffrynt, byddai codi tâl am barcio yn cael fawr o effaith.

"I bobl sy'n dod i Aberystwyth, ni'n gofyn am bobl sydd efo bach o arian i wario.

"Dyw'r rheini ddim yn poeni rhyw lawer [am dalu i barcio]. Dod mewn ag ansawdd uchel o tourist da ni moyn a bydd dim effaith arnyn nhw o gwbl."

Disgrifiad o’r llun,

Dyw'r cynnig o godi tâl ddim yn rhoi'r dewis, yn ôl Nia Jones

Cymysg oedd ymateb pobl i'r cynnig ar y prom ei hun.

"Fi ddim yn credu ddylse nhw chargo," meddai Gwenda Morgan oedd yn cerdded ar y prom.

"Ni ddim yn cael dim byd arall, dim ond y parcio. A lle ma' pawb yn mynd i barcio? Does unman i gael yn y dre i bobl i barcio."

"Mae e'n mynd â'r flexibility o just gallu jwmpo yn y car a dod lawr a mynd am wâc ar y prom rili," oedd barn Nia Jones, sy'n "drist" o glywed am y syniad.

Doedd Cyngor Ceredigion ddim am wneud sylw cyn iddyn nhw drafod y mater ymhellach.

Pynciau cysylltiedig