Agor promenâd Aberystwyth i fwy o fusnesau dros yr haf

  • Cyhoeddwyd
prom Aberystwyth

Fe allai'r promenâd yn Aberystwyth gael ei agor i fwy o fusnesau dros yr haf eleni, dan gynlluniau newydd i fywiogi'r dref a denu mwy o ymwelwyr.

Tan yn ddiweddar dim ond un lleoliad - bwyty PD's Diner - oedd â hawl i werthu bwyd a diod ar hyd ffrynt y prom.

Ond fe all hynny newid erbyn mis Gorffennaf, gyda chynghorwyr yn datgan eu cefnogaeth ddydd Iau i gynllun prawf newydd ar gyfer glan y môr.

Mae cyngor y dref a busnesau lleol wedi croesawu'r cynlluniau, ond wedi rhybuddio bod angen hefyd sicrhau bod y naws unigryw a Chymreig yn cael ei chadw.

Mewn adroddiad i'r Pwyllgor Cymunedau Ffyniannus, dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod "wedi derbyn nifer o ymholiadau newydd" eisoes ar gyfer defnyddio'r prom.

Dan y cynlluniau arfaethedig byddai hyd at chwe pharth newydd yn cael eu creu ar hyd y ffrynt, gyda lle i fasnachwyr a gwerthwyr bwyd a diod.

Gallai fod yn gyfle i rai sydd ar y prom eisoes i ymestyn eu darpariaeth, a gweini pobl y tu allan pan mae'r tywydd yn caniatáu.

"Chi'n mynd i unrhyw fan yn Ewrop sydd efo prom fel hyn ac mae'r prom yn llawn busnesau a stondinau unigol yn gwneud pethau bach yn wahanol," meddai Gareth Evans, rheolwr bwyty Baravin.

"Os mae'r cyfle'n dod lan, yn sicr hoffen ni geisio cymryd mantais o'r cyfle."

Disgrifiad o’r llun,

Dim ond bwyty PD's Diner oedd â hawl tan yn ddiweddar i werthu bwyd a diod ar hyd ffrynt y prom

Unwaith y bydd cabinet y cyngor yn cadarnhau'r cynlluniau, mae disgwyl i'r cyfnod prawf eleni redeg o fis Gorffennaf nes diwedd Hydref.

Bydd gwerthwyr yn gorfod talu hyd at £2,000 i ddefnyddio un o'r parthau am y tymor cyfan, ac yn ôl Richard Griffiths - sy'n rhedeg gwesty Richmond ar y ffrynt - fe allai'r arian fod yn hwb mawr i'r dref.

"Mae'n hen bryd i'r cyngor weld gwerth y prom, ac i dynnu arian mewn o ddefnyddio'r prom yn fasnachol er mwyn rhoi arian mewn i'r gronfa er mwyn gwella'r prom a chadw'r ansawdd yn uchel," meddai.

'Naws Gymreig'

Er i'r cynghorwyr ar y pwyllgor bleidleisio'n unfrydol i gymeradwyo'r cynlluniau, codwyd rhai pryderon ynghylch sbwriel a'r effaith y gallai'r newidiadau gael ar fusnesau eraill sydd eisoes yn yr ardal.

Ond croesawu'r datblygiad mae Cyngor Tref Aberystwyth, cyn belled â bod y masnachwyr newydd yn gweddu i naws yr ardal.

"Mae cyngor y dref eisiau gweld naws Gymreig, bwyd, cynnyrch Cymreig," meddai'r clerc Gweneira Raw-Rees.

"Mae gyda ni gynnyrch o safon uchel iawn yng Ngheredigion, a bydde fe'n neis gweld hwnna ar y prom. A hefyd dwyieithrwydd, mae hynny'n bwysig ofnadw'."