Bryniau Khasia’n ysbrydoli artist o Ddyffryn Ogwen
- Cyhoeddwyd
Mewn arddangosfa arbennig yn oriel ac amgueddfa Storiel ym Mangor ar hyn o bryd mae'r artist Cefyn Burgess yn olrhain hanes cysylltiadiau Cymru â Bryniau Khasia, yng ngogledd-ddwyrain India.
Mae'r casgliad 'Drwy Law a Llun', sydd i'w gweld yn Storiel o 30 Medi tan 30 Rhagfyr, yn edrych ar brofiadau y cenhadon a'r nyrsys aeth i Fryniau Khasia, ac hefyd traddodiadau a phensaernïaeth y bobl Khasi eu hunain.
Esboniai Cefyn: "Mae'r arddangosfa yn ddilyniant i un nes i flwyddyn diwethaf - 'Tu ôl i'r Blwch' a oedd yn gasgliad o drefluniau mewn pwyth, print a thecstil o Fryniau Khasia. Ond mae'r un yma'n edrych mwy ar y ffordd yr oedd pobl yn cyfathrebu drwy greu efo'u dwylo.
"Yn yr arddangosfa yma dwi 'di newid o rhywfaint fel bod 'na fwy ar y tecstilau, y gwehyddu, creu carthenni ac edrych ar y traddodiad yna. Mae 'na luniau tecstilau print brodwaith o'r adeiladwaith - y pethau sy'n diflannu yno. Mae gen i fur o luniau maint cardiau post o'n i'n eu gwneud i gofnodi tra o'n i yna dechrau flwyddyn diwethaf."
Mae'r arddangosfa yn rhoi sylw i rai o'r nyrsys aeth allan i India i weithio, fel y nyrs Beryl Edwards a'r brif weinyddes nyrsio, Margaret Owen, yn Ysbyty Gordon Roberts Shillong yn y cyfnod 1945 i 1947.
Llythyrau'r nyrsys
Mae llythyrau'r nyrsys i'w teuluoedd a ffrindiau gartref yng Nghymru yn rhan o'r arddangosfa ac yn cofnodi eu bywydau a phrofiadau ym Mryniau Khasia; yr amgylchedd, adeiladau a diwylliant pan roedd presenoldeb a dylanwad y Cymry ar ei anterth.
"Mae ganddon ni ddwy ffilm fer sy'n olrhain hanes y gwragedd o Gymru oedd allan 'na fel nyrsus yn gweithio yn ysbytai Cymreig Gordon Roberts, a'u lluniau nhw o India", meddai Cefyn.
"Mae rhywun yn gorfod meddwl am fywyd y Cymry aeth allan i India fel un dwys iawn. Gellir edrych arno'n arwynebol, ond o ystyried y cyfnod mae isio edrych ar eu dewrder nhw, dyfnder eu ffydd, eu profiadau nhw, a be' ysgogodd nhw i fynd allan 'na yn ferched ifanc 20-25 i ben ucha'r mynydd i ogledd dwyrain India, yn nyrsys, a meddygon, sisters ac athrawon.
"Mae eu bywydau nhw yn ddifyr iawn, ac hefyd eu profiadau nhw o'r cyfnod sydd bron canrif yn ôl bellach."
Felly pam fod Cefyn wedi rhoi gymaint o sylw i'r ardal yma o dalaith Meghalaya?
"Nes i ddechrau edrych ar Bryniau Khasia a'r cysylltiad Cymreig am fy mod i wedi bod yn India'n gyson dros yr 20 i 25 mlynedd diwethaf - tua 30 gwaith i gyd. Ond o'n i erioed wedi ymweld yn union â'r mannau ble roedden ni fel Cymry wedi bod yn gweithio.
"Dwi'n cofio yn hogyn bach, yn y capel a'r ysgol Sul efo'r Presbyteriaid, cael blwch bach pren ac arno yn ysgrifenedig 'Crist i Gymru, India i Grist', ac yn hwnna oedden ni hel pres i blant bach India - yr ysgolion a'r ysbytai. Do'n i erioed yn gwybod pwy oedd y bobl oedd tu ôl i'r blwch, a dyna gychwyn ymchwilio i bwy oedd y bobl o'n i'n hel arian ar eu cyfer yn y 1960au, a dyma'r ymgyrch gen i i ddod i 'nabod nhw."
Y Cymry aeth i Fryniau Khasia
Mae'r cysylltiadau rhwng Cymru â'r rhan yma o India uwchben Bangladesh yn ymestyn bron i 200 mlynedd.
"Aeth y Cymry allan i Frynia Khasia yn gyntaf yn 1840 efo Tomos Jones. Mae o'n dipyn o arwr i'r Khasis ac mae 'na ŵyl y banc ar ei gyfer o yno. Fe 'nath y capeli sefydlu ysgolion Sul ac ysgolion dyddiol yno, ac yna aeth y meddygon a'r nyrsys a'r bydwragedd. Mae Ysbyty Gordon Roberts, a oedd yn cael ei alw'n Welsh Mission Hospital, yng nghanol Shillong, ac i fanna oedd nyrsys fel Beryl Edwards a Margaret Owen yn gweithio.
"'Nath yr arferiad 'ma o Gymry'n mynd allan yno barhau tan 1969, pan newidodd pethau i fod o dan dylanwad Delhi. Felly roedd rhaid i arferiad y cenhadon ddod i ben, a trosglwyddwyd yr ysbytai yn gyfan gwbl i Fryniau Khasia."
Datblygu perthynas â'r ardal
"Yn sgil y prosiect gweledol, personol yma, mae yna gangen arall yn ymwneud â thelynau ac Ysgoloriaeth Mair Jones, telynores Colwyn, a fu farw rhyw ddwy flynedd yn ôl. Roedd hi'n gyfaill i mi, ac 'nathon ni benderfynu yn cyfnod olaf ei hamser bod telyn yn mynd i Fryniau Khasia. Mae'r ysgoloriaeth fechan yn cael ei roi i drio hybu'r ochr ddiwylliannol rhwng Cymru a Bryniau Khasia - bod o ddim i'w wneud â'r Eglwys, ddim â chrefydd, ond yn rhywbeth diwylliannol."
Pan fydd Cefyn yn ymweld ag India ym mis Tachwedd eleni gyda thelyn arall, mae'n gobeithio sefydlu Gwyl Cymry-Khasi ar gyfer mis Mawrth a Tachwedd flwyddyn nesaf.
"Mae 'na fwriad i fynd allan eto (i India), gan fod yr ysgoloriaeth telyn wedi dwyn ffrwyth gymaint rydyn ni isio mynd â thelynau eraill i Brifysgol Martin Luther yno. Am fod nhw'n Bresbyteraidd maen nhw wedi clywed am y delyn o'r Beibl, ond erioed wedi'w gweld hi na ei chlywed hi dros eu hunain.
"Mae 'na bobl ifanc a cherddorion traddodiadol Khasi sydd eisiau gwersi ar sut i chwarae'r delyn, felly mae ein cysylltiad diwylliannol wedi ei hagor, a 'da ni eisiau dechrau datblygu'r ochr weledol."
Dylunio â dylanwad y Khasi
Mae arddull a phatrymau tarddiadol ardal Bryniau Khasia wedi dylanwadu ar waith gwehyddu Cefyn ar gyfer yr arddangosfa.
"Mae 'na ddarn tecstilau yn ran o'r arddangosfa yma hefyd. Gwehyddu tecstilau ydi fy maes i, a dwi 'di bod yn gweld sut ma nhw'n gwehyddu yn India, ac isio dod a'r traddodiad yna fewn i fy ngwaith i. Ti ddim yn mynd draw yno i fachu syniadau a dulliau bobl eraill, ond be sy' angen gwneud ydi edrych ar y dylanwad - sut ti'n mynd i gyfleu y diwylliant yna i'r cyfrwng sydd gen i.
"Dyna sydd gen i yn y carthenni a'r dodrefni yn yr arddangosfa - dwi 'di edrych ar batrymau mae nhw'n ei ddefnyddio ar gyfer gwaith haearn, a throsglwyddo hwnnw i'r gwlân, carped a chlustogau."
"Mae nhw'n bobl tawel ac addfwyn, yn garedig ac yn gymwynasgar iawn. Mae 'na nodweddion arbennig iawn i'r Khasis, ac dwi'n siŵr bod hynny wedi dwyn cyn gymaint o atynfa gan y Cymry cynnar oedd yna.
"Mae'r Khasis a'r Cymry'n cyd-dynnu'n dda iawn, ac wedi 150 o flynyddoedd o'r cysylltiad yma mae'r Khasis a'r Cymry yn gefndryd drwy hanes, achos da ni wedi rhannu gymaint o'n diwylliant. Mae nhw'n 'nabod ni, a da ni'n ymwybodol onyn nhw."
Hefyd o ddiddordeb: