Gareth Bonello yn plethu lleisiau Cymru ac India
- Cyhoeddwyd
Mae'r cerddor o Gaerdydd, Gareth Bonello, wedi rhyddhau albwm newydd o ganeuon mae o wedi eu cyd-ysgrifennu a chyd-berfformio gydag artistiaid o Fryniau Khasia yng ngogledd ddwyrain India.
Dyma'r ardal ble'r aeth cannoedd o genhadon o Gymru ddiwedd y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif, ac mae'r cysylltiad rhwng y brodorion a Chymry dal i'w weld. Gyda'r albwm, Sai-thaiñ ki Sur (Plethu Lleisiau), mae Gareth wedi creu perthynasau ac yn yn gobeithio parhau'r cysylltiad cryf rhwng y diwylliannau.
Mae'n fore braf o wanwyn ac rwy'n eistedd yn ystafell flaen Risingbor Kurkalang a'i deulu ymysg mynyddoedd gwyrddion Meghalaya. Tu fas i'r drws agored mae'r ieir yn chwilota'n fodlon yn yr heulwen ond ymhen ychydig bydd cymylau'n casglu a'r glaw yn tywallt, fel sy'n digwydd yn aml yma yn nhroedfryniau'r Himalaia.
Mae'n fis Ebrill 2018 a dyma'r eildro i mi deithio i bentref Risingbor ar fryniau Khasia. Cerddor a chrefftwr offerynnau ydy Rising, ac yn ei ddwylo mae'n dal Duitara; offeryn llinynnol y mae wedi ei gerfio allan o ddarn cyfan o U Dieng Slang, pren y goeden jacffrwyth.
Mae'r Duitara yn rhan bwysig o ddiwylliant y bobl Khasi sy'n gynhenid i'r rhan yma o ogledd ddwyrain India. Yn draddodiadol, defnyddir yr offeryn i gyfeilio hanesion a chaneuon gwerin o amgylch Ka Rympei (yr aelwyd).
Wrth iddo drosglwyddo'r Duitara i mi mae Rising yn cyfaddef gyda chryn dipyn o falchder mai dyma un o'r offerynnau gorau iddo'i greu erioed. Rwy'n taro un o'r tannau sidan gyda'r Thymbrong (plectrwm bambŵ), ac mae nodyn clir a chynnes yn swyno drwy'r tŷ.
Dilyn llwybr Cymry'r gorffennol
Rydw i yma yn nhŷ Rising oherwydd y Cymry a ddaeth o'm blaen. Rhwng 1841 a 1969, teithiodd cannoedd o Gymry i Ogledd Ddwyrain India i sefydlu a chynnal cenhadaeth tramor cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig (a ddaeth yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn 1928).
Ariannwyd y genhadaeth yn uniongyrchol gan y gymuned Bresbyteraidd Gymreig, ac mae llawer yn dal i gofio y blychau casglu yn eistedd ar y silff ben tân adref.
Efengylu oedd blaenoriaeth y genhadaeth, a chanolbwyntiwyd ar sefydlu ysgolion ac ysbytai i wella safonau addysg ac iechyd y boblogaeth. Mae pobl Khasi heddiw yn dal i ymfalchïo yng nghyfraniad y cenhadwr cyntaf, Thomas Jones, a sefydlodd yr wyddor Khasi, ac i John Roberts am ei ddylanwad ar lenyddiaeth.
Serch hynny, mae'n bwysig cydnabod natur drefedigaethol y berthynas, a'r niwed wnaeth y Cymry i'r diwylliant cynhenid wrth drawsffurfio cymdeithas Khasi dros gyfnod o bron i 130 o flynyddoedd.
Rhannu diwylliannau
Ers 2017 rwyf wedi bod yn ymweld â Rising a cherddorion eraill ar draws Meghalaya yn rheolaidd fel rhan o brosiect ymchwil 'Deialogau Diwylliannol Cymreig a Chasi' ym Mhrifysgol De Cymru. O dan oruchwyliaeth yr Athro Lisa Lewis wnes i gwblhau doethuriaeth mewn cerddoriaeth a pherfformio, gyda rhan fawr yn canolbwyntio ar ymchwil ymarferol (neu 'jamio', fel sydd well gen i!) gydag artistiaid Khasi.
Nod y prosiect oedd sefydlu deialog cerddorol gydag artistiaid Khasi, er mwyn archwilio ein perthynas hanesyddol ac i gysylltu gyda'n gilydd fel unigolion creadigol. Gyda hyn mewn golwg, dechreuais berfformio o amgylch y brifddinas, Shillong, ac ar orsafoedd radio lleol.
Fe ddes i nabod rhai o gerddorion y ddinas ac wrth i ni gysylltu'n greadigol fe ddechreuon ni greu cerddoriaeth newydd ar y cyd. Dysgais sut i chwarae'r Duitara wrth ymweld ag artistiaid fel Rising a thrwy hynny daeth y cyfle i rannu alawon gwerin Cymreig a hen emyn donau hefyd. Recordiwyd llawer o'r caneuon newydd yma mewn stiwdio o'r enw Merliham Arrangements yn Shillong.
Roeddwn hefyd yn edrych i mewn i hanes a diwylliant Khasi gydag academyddion North Eastern Hill University (NEHU) ar gyrion Shillong. Sefydlais ddeialog gydag arbenigwyr mewn llên gwerin a barddoniaeth Khasi, a'i wrthgyferbynnu gyda llên Gymreig.
Pan oeddwn yn Shillong byddwn i'n cwrdd â'r bardd Lapdiang Syiem mewn tŷ ar faes yr hen orsaf cenhadu ym Mawkhar, ble fyddwn yn plethu chwedlau'r ddau ddiwylliant a'i chyd-dynnu gyda materion cyfoes.
Roedd hi'n bwysig i dreulio amser allan yn y wlad, ble mae'r cysylltiad i'r traddodiad gwerin llawer fwy cryf a chyfoes. Gyda chymorth NEHU roedd hi'n bosib datblygu perthynas gydag artistiaid tu hwnt i'r brifddinas, megis Risingbor ar fryniau dwyreiniol Khasia a thrigolion pentref Pahambir ar y ffin gydag Assam.
Treuliais noswaith yn Pahambir, ble chefais arddangosiad bythgofiadwy o grefft a cherddoriaeth Khasi. Wrth iddi nosi cefais y fraint o wrando ar Rani Maring yn chwarae'r Maryngod, offeryn eithaf tebyg i ffidil, a Prit a Jai Makri yn arddangos eu sgiliau ar y Muiñ, offeryn bambŵ sy'n cael ei chwarae gyda'r geg.
Plethu lleisiau Cymreig a Khasi
O'r grŵp gwasgaredig yma o artistiaid ac academyddion ganwyd y Khasi-Cymru Collective, ac rydym newydd ryddhau albwm o'r enw Sai-thaiñ ki Sur (Plethu Lleisiau). Recordiwyd y rhan fwyaf o'r albwm yn ninas Shillong ac yn fyw ym mhentrefi Pahambir a Laitkyrhong. Mae hyd yn oed cân fyw o'r hen dŷ cennad ym Mawkhar.
Mae'r gerddoriaeth yn plethu amryw o leisiau o Feghalaya ac yn cynnwys caneuon gwerin Cymreig a Khasi, emyn donau a chaneuon gwreiddiol yn y Gymraeg, Khasi a Saesneg.
Ar ddiwedd ei lyfr arbennig am y genhadaeth, Gwalia in Khasia, meddai'r bardd Nigel Jenkins fod hi'n hen bryd i'r berthynas rhwng Cymru a Bryniau Khasia a Jaiñtia datblygu ar lefel fwy seciwlar. Awgrymodd y gallai cyfnewidion diwylliannol yn y celfyddydau helpu'r ddwy gymdeithas symud o'r hen berthynas hierarchaidd i un fwy hafal, fel chwiorydd.
Mae'n codi fy nghalon i weld prosiectau creadigol rhwng artistiaid Cymreig a Khasi yn dechrau gwireddu'r freuddwyd yna.