Caerdydd: Apêl heddlu ar ôl i 80 o geir gael eu difrodi
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn ddifrodi 80 o geir yng Nghaerdydd.
Dywedodd yr heddlu fod y difrod wedi digwydd tua 01:00 bore dydd Mawrth, 31 Hydref yn ardal Treganna.
Roedd car teulu Denis Rosenau, 18, yn un o'r rhai cafodd eu difrodi ar Heol Lansdowne.
Wrth iddo a'i deulu ymbaratoi i fynd i'r ysgol ac i'r gwaith, dywedodd ei fod wedi mynd "allan a gweld nifer o'i gymdogion yn edrych ar eu ceir".
"Des i 'nôl adref a gweld bod car y teulu wedi cael crafiad yr holl ffordd lawr", meddai, wrth bwyntio at y difrod o un pen y car i'r llall.
"Mae pob car yma [ar Heol Lansdowne] wedi'u difrodi."
Ychwanegodd: "Dwi wir ddim yn gweld y pwynt o nhw'n difrodi ceir pobl eraill. Dwi'n reit frustrated.
"Dyw e ddim yn rhywbeth ma' rywun arferol yn gwneud, cerdded rownd yn difrodi ceir pobl gyda'u hallweddi achos ar ddiwedd y dydd ry' ni gyd yn gweithio'n galed ac wedyn ma' rhywun yn cerdded rownd ac yn difrodi'n ceir.
"Mae e'n drist mewn gwirionedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2023