Ateb y Galw: Sabrina Lee
- Cyhoeddwyd
Y gyflwynwraig tywydd gyda BBC Cymru, Sabrina Lee, sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma.
Yn wreiddiol o Aberdâr fe astudiodd Sabrina meteoroleg am dair blynedd ym Mhrifysgol Reading, ac yna blwyddyn yn astudio ym Mhrifysgol Oklahoma yn 2014-15.
Mae hi'n gyflwynydd tywydd i BBC Cymru ers mis Hydref 2019.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Dwi ddim yn siŵr am fy atgof cyntaf, ond dwi'n cofio fy rhieni yn gyrru fi rownd yn y car er mwyn trio cael fi i gysgu.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Aberdâr - oherwydd y bobl gyfeillgar yno. Dyma'r dref lle ges i fy magu, ac mae wastad yn neis cwrdd â phobl dwi'n eu 'nabod.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
'Nes i astudio dramor yn Oklahoma, a dyna yw ble ges i rhai o'r nosweithiau gorau erioed gyda phobl anhygoel; y barn dances, y pêl-droed Americanaidd a'r sinemâu drive-in.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Uchelgeisiol, anturus a charedig.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
O'n i yn America gyda fy ffrindiau ac odden ni eisiau gweld cawodydd o sêr gwib. Nathon ni barcio ein ceir ar ochr y ffordd yng nghanol nunlle, ac edrych tua'r nefoedd.
Ond 'nath rywun ffonio'r heddlu achos doedden nhw ddim yn siŵr beth oedden ni'n wneud... pwy fydde'n meddwl bydde rhywbeth mor ddiniwed yn gallu arwain at seirenau a golau glas yn fflachio!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Dwi 'di cael amryw o adegau 'nath godi embaras i mi yn fyw ar y teledu. Roedd un adeg ble roedd 'na broblem technegol a do'n i ddim yn gallu clywed y cyfarwyddwr yn fy nghlust. Dechreuodd y cyflwynydd newyddion ddarllen y newyddion ac o'n i'n meddwl bo' ni dal yn ymarfer... ond na, roedd e go iawn... yn fyw ar teledu.
Doedd gen i ddim y remote control yn fy llaw i chwarae'r graffeg tywydd a doedd fy mrawddeg gyntaf i ddim yn barod. Felly dyna ffaith fach ddiddorol i chi - dydy cyflwynwyr tywydd ddim yn darllen o sgripts.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Yn ddiweddar fe adawodd fy nghyd-weithiwr, Megan Williams, felly roedd 'chydig o ddagrau.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Bydde fy nheulu'n gallu rhoi rhestr hirfaith ma'n siŵr! Dwi'n gallu cymryd misoedd i ateb negeseuon, mae fy nghar i weithiau'n gallu edrych fel wardrobe, a dwi weithiau yn anghofio rhoi cynhwysion fewn pan dwi'n cwcio (fel gwneud cacen heb wyau... doedd hi ddim yn grêt!)
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Miss Congeniality yw fy hoff ffilm, mae'n ffilm am gystadleuaeth harddwch sydd bach yn wahanol, a Sandra Bullock yw fy hoff actores.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Byswn i'n licio mynd am afternoon tea gyda David Attenborough - dwi'n teimlo fyswn i'n dysgu gymaint!
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi bach yn obsessed gyda photeli dŵr poeth. Dwi jest yn caru bod yn gynnes - dwi'n meddwl ei fod yn fy ngwneud i'n fwy cynhyrchiol. Oes, mae gen i un dan fy nesg yn y gwaith.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Byswn i'n cael gwledd o fy hoff fwydydd i gyd, gan gynnwys cig moch, wyau a cwcis syth o'r popty.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Un llun sy'n bwysig i mi yw pan o'n i'n fyfyriwr a 'nes i gwrdd â Derek Brockway. Daeth fy mreuddwyd o fod yn gyflwynydd tywydd yn wir ac mae Derek bellach yn un o fy ffrindiau gorau; 'da ni'n caru chwerthin gyda'n gilydd yn y swyddfa.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Byswn i wrth fy modd cael profi diwrnod ym mywyd Taylor Swift. Dwi ddim yn ganwr da iawn, felly bydde cael doniau Taylor yn eitha' arbennig. Mi fysa hefyd yn hwyl gallu canu fy ffordd drwy fwletin tywydd!