Y Bencampwriaeth: Stoke 0-0 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Mae Caerdydd yn seithfed yn y Bencampwriaeth wedi gêm ddi-sgôrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Caerdydd yn seithfed yn y Bencampwriaeth wedi gêm ddi-sgôr

Dechreuodd Caerdydd eu gêm yn hyderus iawn brynhawn Sadwrn gan ymddwyn fel tîm sydd wedi cipio sawl buddugoliaeth yn ddiweddar.

Ond cyn pen dim yr oedd Stoke yn rheoli'r chwarae ac yn canfod digon o le ar eu hasgell chwith.

Caerdydd oedd yn cael y cyfleon gorau - ac roedd yna sawl ymgais tua'r gôl.

Di-sgôr oedd hi ar hanner amser.

Yn yr ail hanner Caerdydd oedd y tîm cryfaf gyda'r eilydd Rubin Colwill yn creu sawl cyfle i'r Adar Gleision.

Daeth y gêm i ben yn ddi-sgôr ac mae Caerdydd yn seithfed yn y Bencampwriaeth.