Cwpan FA Lloegr: Casnewydd 2-0 Oldham
- Cyhoeddwyd
![Fe sgoriodd Shane McLoughlin ddwywaith i Gasnewydd brynhawn Sadwrn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1024/cpsprodpb/74C3/production/_131619892_cdf_041123_newport_v_oldham_03.jpg)
Fe sgoriodd Shane McLoughlin ddwywaith i Gasnewydd brynhawn Sadwrn
Er iddyn nhw gael llawer iawn o'r meddiant doedd yna ddim sgôr i Oldham yn erbyn yr Alltudion brynhawn Sadwrn.
Ar ôl ugain munud fe gafwyd ergyd droed dde gan Shane McLoughlin o Gasnewydd o du allan i'r blwch cosbi ac fe rwydodd yng nghanol y gôl.
Cadwodd golwr Casnewydd, Nick Townsend, y gêm yn gyfartal gan arbed peniad Joe Nuttall.
Daeth ail gôl i Gasnewydd ac i Shane McLoughlin ar ôl 80 munud wrth iddo gicio'r bêl ar draws i ganol y rhwyd.
Mae Casnewydd felly yn camu ymlaen i'r rownd nesaf yng nghwpan yr FA.