Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Scarlets 31-25 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Scarlets v CaerdyddFfynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency

Roedd yna ddigon o gyffro ym Mharc y Scarlets nos Sadwrn wrth i'r tîm cartref wynebu Caerdydd.

Yr ymwelwyr a sgoriodd gyntaf wedi i Ellis Bevan sicrhau cais o fewn pum munud ond cyn pen chwarter awr roedd yna gais i Alex Craig o'r Scarlets ac wedi i'r ddau dîm drosi yn llwyddiannus roedd y sgôr yn gyfartal.

Cyn diwedd yr hanner cyntaf roedd yna gais arall yr un i'r ddau dîm - y tro hwn i Johnny McNicholl o'r Scarlets a Rhys Carré o Gaerdydd ac wedi cicio llwyddiannus 14-14 oedd y sgôr ar hanner amser.

Yn fuan yn yr ail hanner, tri phwynt arall i Gaerdydd wedi cic gosb ond yna llawenydd i gefnogwyr Llanelli wedi i gapten y Scarlets, Gareth Davies, sgorio (21-17).

Wedi i de Beer gicio tri phwynt arall - dim ond un pwynt oedd ynddi (21-20) ond yna fe welodd Vaea Fifita ei gyfle ac roedd y Scarlets wyth pwynt ar y blaen ac ymhen rhai munudau cafodd mantais y tîm ei hymestyn wedi cic gosb lwyddiannus.

Ond doedd yr ymwelwyr ddim yn ildio ac fe redodd Theo Cabango ar hyd y cae gan groesi i Gaerdydd (31-25) - aflwyddiannus fu'r trosiad.

Y sgôr terfynol 31-25 wedi gêm llawn cyffro.

Mewn gêm arall yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig colli fu hanes y Dreigiau o 45-14 yn Cork.

Ryan Woodman ac Aki Seiuli a sgoriodd i'r Cymry gyda Will Reed yn trosi'n llwyddiannus - Seiuli yn sgorio ym munud olaf y gêm.