Cwpan FA Lloegr: Mansfield 1-2 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Aeth Wrecsam ar y blaen ar ôl 23 munud gydag ergyd rymus Sam Dalby a gallai'r Dreigiau fod ddwy neu dair gôl ar y blaen oni bai am arbedion Christy Pym yn gôl Mansfield.
Yn yr hanner cyntaf roedd chwaraewyr Wrecsam yn hawlio cic o'r smotyn wedi i Aden Flint lawio yn y cwrt cosbi ond nid oedd Edward Duckworth yn cytuno, ac felly un gôl oedd ynddi ar hanner amser.
Roedd Mansfield ar dân ar ddechrau'r ail hanner a chafwyd sawl cyfle da, ond roedd Wrecsam yn amddiffyn yn gadarn.
Roedd Wrecsam yn barod iawn i ymosod ac fe gyfunodd Dalby a Paul Mullin ar ymyl y cwrt cosbi gyda Mullin yn plannu'r bêl yn y rhwyd.
Eiliadau wedi'r ail gychwyn roedd Mansfield wedi taro nôl - pêl hir yn cael ei phenio ymlaen i lwybr Rhys Oates.
Methodd George Evans glirio'r bêl a chyda tharan o ergyd roedd Mansfield wedi sgorio a'r dyrfa gartref yn dathlu.
Daeth ambell gyfle i Wrecsam ond ni ychwanegwyd at y sgôr.
Bu bron i Mansfield sgorio yn y funud olaf ond aeth y bêl heibio'r postyn.
Ychwanegwyd wyth munud at y 90 ac roedd Mansfield yn llawer iawn mwy ymosodol. Ond roedd Wrecsam yn amddiffyn yn dda, ac yn bygwth ymosod yn sydyn.
Y sgôr terfynol 1-2 gyda Wrecsam yn mynd i rownd nesaf cwpan yr FA.