Agor cwest Kian Daniel Collier fu farw ar yr A55

  • Cyhoeddwyd
Arweiniodd cau ffordd yr A55 tua'r dwyrain at dagfeydd yn yr ardal
Disgrifiad o’r llun,

Arweiniodd cau ffordd yr A55 tua'r dwyrain at dagfeydd yn yr ardal

Mae cwest wedi agor i farwolaeth dyn a gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad - a oedd, mae'n cael ei honni, yn ymwneud â thacsi oedd wedi ei ddwyn - yn Sir Conwy.

Roedd Kian Daniel Collier, 22, yn teithio ar ei ben ei hun mewn Hyundai gwyn pan darodd y car yn erbyn wal ar yr A55 ger Penmaenmawr tua 06:00 ar 28 Hydref.

Bu farw Mr Collier, o Ffordd Tan y Lan, Hen Golwyn, yn y fan a'r lle.

Roedd cwmni tacsi Premier Group o Fangor, sy'n berchen ar y car, wedi datgan yr wythnos diwethaf bod y cerbyd wedi'i ddwyn oddi wrthyn nhw ac nad oedd un o'u gyrwyr yn gysylltiedig â'r digwyddiad.

Mewn gwrandawiad byr yn Rhuthun ddydd Llun, dywedodd Crwner Cynorthwyol Dwyrain a Chanol Gogledd Cymru, Kate Robertson, mai cyfres o anafiadau oedd achos marwolaeth Mr Collier.

"Mae ein hymchwiliadau i'r digwyddiad hwn yn parhau, gan gynnwys ymholiadau ynghylch amheuaeth o gymryd cerbyd modur heb ganiatâd," meddai Heddlu Gogledd Cymru.

Pynciau cysylltiedig