Stori Guto: 'Dwi ddim yn gamgymeriad'
- Cyhoeddwyd
![Guto Williams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/3DBD/production/_131650851_gwesty_aduniad_2023s4c_p11-1.jpg)
"Mae fatha bod chi'n mynd trwy bywyd yn meddwl bod chi'n gamgymeriad, dwi ddim fod yma."
Gan gychwyn bywyd mewn cartref plant amddifaid yng Nghastell-nedd gyda dim ond ceiniog a hanner, Babygro a blanced i'w enw, mae Guto Williams wedi bod ar siwrne dros y ddwy flynedd ddiwethaf i ddod o hyd i'w wreiddiau a'i deulu.
Cafodd Guto ei fabwysiadu yn fabi, a chael gwybod hynny pan yn 11 oed gan ei rieni maeth.
Yn y rhaglen nesaf o Gwesty Aduniad ar S4C, mae Guto'n rhannu ei stori o ddod o hyd i'w deulu gwaed, sy' wedi bod yn 'dipyn o rollercoaster' iddo, fel mae'n dweud wrth Cymru Fyw.
Roedd mam Guto wedi cadw'i beichiogrwydd yn gyfrinach nes iddi fynd i'r ysbyty i'w eni ac yna gofynnodd i'w mab gael ei fabwysiadu.
Wedi magwraeth hapus iawn gyda'i deulu maeth, Nesta a Iolo Wyn Williams, penderfynodd Guto, sy'n dod o Dregarth, ger Bangor, gysylltu gyda'i fam waed pan oedd yn 30 oed. Doedd hi ddim eisiau adeiladu perthynas gyda fe, penderfyniad wnaeth 'frifo'n ofnadwy' fel mae'n dweud: "Oedd o fath a cael dy rejectio am yr ail waith.
"Mae pob dim yn neud fwy o sens rŵan ond ar y pryd o'n i wedi cael fy rejectio unwaith ac yna dwi wedi estyn llaw allan a dwi wedi cael fy nhaflu nôl am yr ail waith ac oedd hwnna wedi brifo.
"Es i i rhyw le fach am rhyw fis pan oedd pob dim yn suddo fewn ac o'n i'n reit fregus yn emosiynol, oedd iechyd meddwl fi ddim yn grêt felly ges i counselling i helpu. O'n i'n beio fy hun a'n gweld mai bai fi ydi pob dim yn hytrach na (gweld mai) sefyllfa hi oedd o, ddim fi.
"Oedd o'n rhyw ddwy flynedd lle dwi ond yn cofio bits o mywyd achos o'n i'n trio delio efo cymaint oedd yn mynd ymlaen, o'n i wedi colli ffordd.
"Mi nes i holi os oedd gen i frodyr neu chwiorydd a hanes iechyd y teulu a ffeindio allan bod gen i chwiorydd ond o'n i ddim mewn lle digon cadarn yn emosiynol ac yn fy mywyd personol i fynd ymlaen."
![Guto gyda'i wraig Iona, y plant a'i rieni Nesta a Iolo Wyn Williams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/395/cpsprodpb/B149/production/_131658354_priodas.png)
Guto gyda'i wraig Iona, y plant a'i rieni Nesta a Iolo Wyn Williams ar ddiwrnod ei briodas
Erbyn hyn mae Guto yn 48 oed, wedi priodi efo Iona ac yn magu dau o blant ei hun felly penderfynodd, gyda help Gwesty Aduniad, i fynd ati i chwilio am ei ddwy hanner chwaer, oedd ddim yn gwybod am ei fodolaeth.
Roedd angen troedio'n ofalus, fel mae Guto yn esbonio: "Roedd fy mam gwaed yn fregus yn ystod y rhaglen o ran iechyd ac yn anffodus gollais i Mam yn ystod y rhaglen. Hi sy' 'di bod yna yn gefn ac yn gadarn i fi drwy mywyd. Ac roedd hi'n gefnogol iawn i fi i gymryd y camau yma.
"Ar y llaw arall oedd genno ni'r fam gwaed - oedd amgylchiadau fi'n dod i'r ddaear ddim yn amgylchiadau grêt ac oedd angen troedio'n reit ofalus achos oedd hi dal yn gryf iawn bod hi ddim isho adeiladu'r perthynas. Dwi'n hollol fine am hynny.
"Tro yma y diddordeb oedd gynna'i oedd gobeithio cynnal perthynas gyda'n chwiorydd, ddim mam - dwi wedi parcio hwnna i'r ochr bron 20 mlynedd yn ôl."
![Guto Williams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/17255/production/_131650849_gwesty_aduniad_2023s4c_p11-12.jpg)
Gobaith
Er mawr syndod i Guto, roedd ei ddwy hanner chwaer yn awyddus iawn i'w gyfarfod ac i ffurfio perthynas, oedd yn "deimlad anhygoel" iddo: "O'n i 'di adeiladu fy hun i fyny i fethu eto. O'n i''n gwybod fod amgylchiadau mam nhw ddim yn grêt ac yn meddwl bod nhw'n mynd i gymryd ochr mam nhw, sy'n ddigon teg.
"Ar y dechrau oedd o mwy fath a sioc bod nhw isho dechrau cynnal perthynas ac isho adeiladu i'r pwynt lle allen ni gyfarfod. O'n i'n gyrru adra o'r gwesty a 'nes i jest dechrau crio yn y car, oedd pob dim wedi hitio.
"Oedd 20 mlynedd wedi hitio fi.
"Ond crio o hapusrwydd oedd o, dim tristwch."
Cyfarfod
Erbyn hyn mae Guto a'i ddwy hanner chwaer wedi cyfarfod ac yn trefnu i'w teuluoedd i gyfarfod nesaf: "'Natho ni gyfarfod a chael noson hir yn siarad a bwyta.
"Gatho ni Facetime efo'u plant a'u gŵr nhw ac oeddan nhw'n ofnadwy o gyffrous.
"Dwi'n nesáu at 49 rŵan ac yn sydyn reit mae gen i ddwy chwaer a phedwar o blant ychwanegol. Mae yn bonkers. Dwi'n cael moment weithiau o feddwl, 'o mam bach gynno fi deulu estynedig newydd sbon yn 48 oed'.
"Mae gan y chwaer hynaf lun o fi ar silff ben tân achos mae hi'n gweld fi fel rhan o'r teulu. Mae ei mam hi yn dod draw i weld hi a'r plant ac yn gweld llun fi fyny, bod fi yn rhan o'r teulu, i hi gael dod i arfer.
"Gôl y ddwy chwaer ydy yn y pen draw gobeithio cael fy mam gwaed rownd i gydnabod hyn ac i falle fod yn rhan ohono fo ond i fi beth sy'n bwysig yw i gryfhau a chadw'r perthynas i fynd efo'r chwiorydd.
"Bonws fyddai'r mam yn y diwedd ond dwi ddim isho rhoi dim pwysa arni hi o gwbl achos dydi hwn ddim yn hawdd iddi hi."
Cyfle arall
Mae Guto yn talu teyrnged i'w rhieni maeth am ei fagwraeth: "Dyma pam mae'n bwysig i ddweud am rhieni maeth sy'n fodlon rhoi ail gyfle i blant fatha fi - heb rieni maeth fi Duw a wŷr lle fydden i.
"Dwi wedi cael bywyd anhygoel a magwraeth ffantastig.
![Guto yn faban gyda'i rieni maeth Nesta a Iolo Wyn Williams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/776/cpsprodpb/6329/production/_131658352_babi.png)
Guto yn faban gyda'i rieni maeth Nesta a Iolo Wyn Williams
"Mae 'di mynd full circle - y fam gwaed sy'n colli allan, ddim fi a dwi ddim yn gamgymeriad... o'n i fod fan hyn ar y ddaear.
"Dwi wedi bod yn teimlo ar brydiau yn reit negatif am fi fy hun a dioddef lot o iechyd meddwl o ran diffyg hyder a rŵan dwi'n teimlo fel bod mwy fi fy hun.
"Mae sawl rheswm dwi wedi neud y rhaglen - gobeithio allai ysbrydoli plant eraill fatha fi sy'n hanner meddwl am estyn allan i ffenidio mwy am deulu gwaed ac hefyd hyrwyddo y rhieni maeth sy'n rhoi'r cyfle yma i blant sy'n cael eu mabwysiadu.
"Oedd Mam a fi'n agos iawn.
![Guto gyda'i rieni maeth Nesta a Iolo Wyn Williams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/776/cpsprodpb/FF69/production/_131658356_gifanc.png)
"Mae'n newyddion mor hapus a gwych ar un ochr ond eto alla'i ddim rhannu efo Mam ac mae Dad efo dementia drwg felly alla'i ddim rhannu o gyda'r dau berson pwysicaf yn y stori 'ma i gyd - nhw sy' 'di rhoi'r cryfder i mi neud hwn i gyd.
"Os ti'n gweld papur gwreiddiol fi yn yr orphanage yng Nghastell-nedd ac o'n i efo dim teulu na dim byd o gwbl, jest blanced, Babygro sbâr ac un ceiniog a hanner i'n enw - dwi 'di mynd o fan 'na i allu gael bywyd anhygoel efo rhieni maeth. Mae werth bob dim."
![Guto gyda'i blant a'i rieni Nesta a Iolo Wyn Williams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/876/cpsprodpb/14D89/production/_131658358_teulu1.png)
Gwyliwch Gwesty Aduniad ar S4C ar nos Fawrth 14 Tachwedd am 9pm.