Cynnal gwasanaethau Sul y Cofio ar draws Cymru
- Cyhoeddwyd

Aelodau'r lluoedd arfog o flaen murlun sydd wedi ei gwblhau yn ddiweddar yn Abertyleri, Blaenau Gwent
Mae gwasanaethau wedi cael eu cynnal ar draws Cymru ddydd Sul i nodi aberth y rhai a fu farw a'r rhai a anafwyd mewn rhyfeloedd byd.
Cafodd dwy funud o dawelwch ei gynnal am 11:00 i anrhydeddu cyfraniad y rhai a wasanaethodd yn y ddau ryfel byd a rhyfeloedd ers hynny.
Ymunodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford â gwleidyddion a chynrychiolwyr eraill mewn gwasanaeth ger y Gofeb Ryfel Genedlaethol yng Ngerddi Alexandra ym Mharc Cathays, Caerdydd.
Roedd yna wasanaethau tebyg ar draws Cymru - gan gynnwys ym Mangor, Llandudno, Abertawe a Wrecsam.
Y cyn-filwr Sion Prysor Williams yn trafod pwysigrwydd Sul y Cofio

Mark Drakeford (ar y dde) gyda chynrychiolwyr gwleidyddol a chymunedol ac o'r lluoedd arfog
Dywedodd Mr Drakeford bod gwasanaethau cofio "mor berthnasol ac ingol ag erioed gyda pharhad y trais cynyddol yn Israel a Gaza, a'r rhyfel sy'n parhau yn Wcráin".
Ychwanegodd: "Mae gyda ni aelodau o'r gymuned Iddewig a'r gymuned Foslemaidd yma yng Nghymru sydd â ffrindiau yn y Dwyrain Canol, y mae digwyddiadau yno yn rhan fawr o'u bywydau...
"Mae heddiw yn ddiwrnod sy'n dod â hynny i'r wyneb ac yn caniatáu i ni gyd i fyfyrio sut gallwn ni fel cymuned ryngwladol ddod o hyd i ffordd o ddod âr gwrthdaro yna i ben."

Dau oedd yn y gwasanaeth cenedlaethol yng Nghaerdydd - Mali Stevenson a Brynmor Morgan
Ymhlith y dorf yn y gwasanaeth cenedlaethol yng Nghaerdydd oedd Brynmor Morgan, o'r Rhondda Valleys, a wasanaethodd gyda'r Awyrlu am 12 ymlynedd.
"Wna'i fyth anghofio fy holl ffrindiau yn y lluoedd arfog," dywedodd.
Yn ôl Mali Stevenson, cadét 17 oed gydag Ambiwlans Sant Ioan, mae'n "bwysig bod pobol yn dod at ei gilydd".
Ychwanegodd: "Rwy'n meddwl bod pobol ifanc â rhan eitha' sylweddol yma ac mae'n wirioneddol wych i weld gymaint o bobol yma."

Rhan o'r dorf a ddaeth at ei gilydd yn Llanilltud Fawr ddydd Sul i dalu parch ar ddiwrnod Sul y Cofio
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Mae adeiladau Cyngor Sir Ceredigion ymhlith nifer ar draws Cymru'n sy'n cael eu goleuo'n goch y penwythnos yma
Yn Aberteifi bydd pabi yn cael ei daflunio ar gastell y dref.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies bod taflunio'r pabi yn "hwb i atgoffa pobl o bwysigrwydd y penwythnos ac yn enwedig Sul y Cofio".
"Mae'n helpu meddyliau pobl i gofio - mae'n rhywbeth ar gyfer pob gwrthdaro sydd wedi bod ar draws y degawdau, canrifoedd..."
Mae baneri'n chwifio ger adeiladau Cyngor Ceredigion, ac ers lansiad apêl y pabi mae Canolfan Alun R Edwards a'r bandstand yn Aberystwyth wedi cael eu goleuo'n goch.

Pobl yn cadw dwy funud o dawelwch yn Aberystwyth ddydd Sul

Aelodau'r lluoedd arfog ac aelodau'r cyhoedd yn gorymdeithio yn y glaw yng Nghasnewydd
'Heddwch i'r dyfodol'
Mae Liz Saville Roberts AS wedi nodi ar y cyfryngau cymdeithasol ei bod hi eisoes wedi gosod croes yng Ngardd Goffa San Steffan ar ran etholwyr Dwyfor Meirionydd i gofio am y rhai a fu farw mewn rhyfeloedd byd.
Wrth wneud hynny dywedodd: "Gadewch i ni uno yn y gobaith o heddwch ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Liz Saville Roberts AS yn gosod croes yng ngardd goffa San Steffan
Torchau pabi o Lanelli i Lundain
Yn ardaloedd Abertawe a Llanelli, mae torchau pabi wedi eu gosod ar drên arbennig o Lanelli i Lundain.
Fe drefnodd Great Western Railway ymgyrch Pabïau i Paddington, lle mae gwahanol drefi a dinasoedd yn gosod pabi ar y trên ac yna mae'r pabïau yn cael eu gosod wrth gofeb rhyfel ger platfform 1 yng ngorsaf drenau Paddington i gofio am y rhai a gollwyd yn y rhyfeloedd.

Arddangosfa penwythnos y cofio yn siop Cwlwm, Croeoswallt
Yng Nghroesoswallt mae plant Ysgol Gynradd a Chylch Meithrin Llanrhaeadr-ym-Mochnant wedi bod yn brysur yn creu arddangosfa pabi ar gyfer ffenest siop Gymraeg Cwlwm i nodi'r diwrnod.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi nodi ar eu cyfryngau cymdeithasol y bydd eu hysbytai ar draws Gogledd Cymru yn "dangos parch i'r rhai sydd wedi'u heffeithio ar Sul y Cofio".

Aelodau o staff Betsi Cadwaladr yn cofio am y rhai sydd wedi bod yn rhan o wrthdaro mewn rhyfeloedd
90 mlynedd o'r pabi gwyn yng Nghymru
Mae eleni yn nodi 90 mlynedd o'r pabi gwyn yng Nghymru - pabi sy'n symbol o heddwch.
Mae Cymdeithas y Cymod, sef grŵp sy'n ymgyrchu dros heddwch byd eang, yn dweud bod ei neges eleni "mor bwysig ag erioed".
Dangos "parch i holl ddioddefwyr rhyfel" yn ogystal â "chynrychioli ymrwymiad dwfn i weithio dros heddwch" yw symbol y pabi gwyn, medd llefarydd.

Pabi gwyn ymhlith y rhai coch wrth gofeb ryfel Caernarfon
Un a fydd yn gwisgo'r pabi gwyn fydd yr Archdderwydd Mererid Hopwood sy'n gyn-gadeirydd Cymdeithas y Cymod.
Dywedodd: "Mae symbol y Pabi Gwyn yn atgyfnerthu'r cydymdeimlad a'r cof am bawb a gollwyd mewn rhyfel."
Ychwanegodd ei fod hefyd yn "atgyfnerthu'r alwad arnom i droi o'r ymladd yn y ffosydd a maes y gad i gyd-drafod wrth y bwrdd a'r gadair."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2023