Tân mewn tafarn enwog ger y Cae Ras yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Tafarn y TurfFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dafarn drws nesaf i gartref Clwb Pêl-droed Wrecsam

Mae tafarn y Turf yn Wrecsam wedi ailagor yn barod, ar ôl dweud yn gynharach ddydd Gwener y byddai ar gau am gyfnod amhenodol yn dilyn tân yn yr adeilad.

Mae'r adeilad drws nesaf i'r Cae Ras - stadiwm Clwb Pêl-droed Wrecsam - ac mae hi wedi ymddangos yn gyson yn y gyfres deledu boblogaidd, Welcome to Wrexham.

Mewn neges ar wefan X, Twitter gynt, dywedodd perchennog y dafarn, Wayne Jones, bod tân wedi bod yn ystafell y boeler.

Ychwanegodd nad oedd neb wedi eu hanafu yn y digwyddiad, ond y byddai'n rhaid cau'r dafarn oherwydd y difrod.

Ond ychydig oriau'n unig yn ddiweddarach dywedodd fod modd iddyn nhw ailagor, gan ddiolch i'r cyhoedd am eu "hymateb syfrdanol".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Wayne Jones a'r Turf wedi bod yn ymddangos yn gyson ar y gyfres Welcome to Wrexham

Bydd Wrecsam yn chwarae gartref yn erbyn Gillingham ddydd Sadwrn.

Roedd Mr Jones wedi cyhoeddi neges ar X yn gynharach dydd Gwener yn dweud y byddai pabell fawr y dafarn - sy'n cael ei chodi yn y maes parcio - ar gau ar ddiwrnod y gêm.

Honnodd Mr Jones bod rhywun wedi torri mewn i'r babell ac wedi difrodi offer.

Pynciau cysylltiedig