Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-3 Norwich City

  • Cyhoeddwyd
Callum Robinson celebrates with Josh BowlerFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Josh Bowler yn dathlu gyda Callum Robinson ar ôl sgorio'i ail gôl ers ymuno â Chaerdydd ar fenthyg o Nottingham Forest

Fe ildiodd Caerdydd ddwy gôl hwyr yn eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Norwich City gan olygu taw'r ymwelwyr oedd yn fuddugol yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Roedd Christian Fassnacht (22) wedi rhoi'r ymwelwyr ar y blaen cyn i ergydiad droed chwith gan Josh Bowler (39) unioni'r sgôr.

A diolch i beniad o agos gan Callum Robinson (43) Caerdydd oedd â'r fantais ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Ond fe lithrodd y gêm o'u gafael tua diwedd yr ail hanner. Daeth Norwich yn gyfartal pan roddodd Ryan Wintle (82) y bêl i'w rwyd ei hun ac fe dorrodd Adam Idah (84) galonnau'r cefnogwyr cartref pan rwydodd i sicrhau'r triphwynt i'r ymwelwyr.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn llithro o'r seithfed i nawfed safle'r tabl.