Y Bencampwriaeth: Ipswich 3-2 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Chwaraewr canol cae Ipswich, Sam Morsy yn herio Jay Fulton a sgoriodd unig gôl Abertawe
Colli oedd hanes Abertawe oddi cartref yn erbyn Ipswich Town yn y Bencampwriaeth, er taw nhw wnaeth sgorio gôl gyntaf y gêm.
Fe rwydodd Jay Fulton, gyda pheniad o groesiad Jamal Lowe, i roi'r Elyrch ar y blaen wedi saith o funudau.
Ond o fewn chwarter awr roedd y tîm cartref wedi troi'r fantol wedi goliau Jack Taylor (17) a Conor Chaplin (22).
Llwyddodd Ipswich i agor y bwlch wedi'r egwyl - fe ildiodd Harrison Ashby gic gosb ac fe rwydodd George Hirst (53) i wneud hi'n 3-1.
Bu'n rhaid i'r Elyrch chwarae 20 munud olaf y gêm dyn yn brin wedi i Liam Cullen gael ei hel o'r maes am weld ail garden felen.
Serch hynny fe wnaethon nhw lwyddo i leihau'r bwlch wedi pum munud o amser ychwanegol pan saethodd Lowe y bêl i'r rhwyd o agos.
3-2 oedd y sgôr terfynol felly sy'n golygu bod Abertawe yn llithro yn y tabl o'r 15fed i'r 17eg safle.