Adran Dau: Wrecsam 2-0 Gillingham
- Cyhoeddwyd
![Ollie Palmer](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/A5A0/production/_131700424_gettyimages-1659528382-1.jpg)
Mae Ollie Palmer wedi sgorio tair gôl i Wrecsam ers dechrau'r tymor
Mae Wrecsam wedi sicrhau triphwynt arall yn yr ymgyrch i aros tua brig Adran Dau wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Gillingham ar y Cae Ras.
Fe wnaeth gôl gynnar Ollie Palmer roi'r dechrau gorau posib i'r tîm cartref.
Fe gafodd yr ymosodwr ddau gyfle i sgorio yn y funud gyntaf ac o ganlyniad i'r ail ymgais, ergyd droed chwith ger gornel chwith y rhwyd, roedd Wrecsam ar y blaen.
Roedd yn rhaid aros am 70 o funudau cyn yr ail gôl - ergyd droed dde'r amddiffynnwr Ben Tozer o ochr chwith y cwrt chwech i dop gornel y rhwyd o groesiad gan Jacob Mendy.
2-0 oedd y sgôr terfynol felly sy'n golygu bod Wrecsam yn codi o'r drydedd i'r ail safle yn y tabl.