Adran Dau: Casnewydd 0-0 MK Dons

  • Cyhoeddwyd
Lewis PayneFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Amddiffynnwr Casnewydd Lewis Payne, sydd ar fenthyg o Southampton

Bu'n rhaid i Gasnewydd a Milton Keynes Dons fodloni ar bwynt yr un yn dilyn gêm ddi-sgôr gyfartal yn Adran Dau.

Roedd yna ymdrechion yn yr hanner cyntaf gan Ryan Delaney, Nathan Wood, Bryn Morris ac Omar Bogle, a darodd y postyn ar un achlysur.

Fe welodd Bogle garden felen am drosedd wedi chwarter awr o chwarae, ac roedd enw Will Evans hefyd yn llyfr y dyfarnwr cyn diwedd yr hanner cyntaf.

Fe gafodd Evans sawl cyfle i sgorio yn yr ail hanner a bu'n rhaid atal ergydiad addawol gan Bogle.

Ond roedd yna ddigon o gadw golwr Casnewydd, Nick Townsend, yn brysur mewn gêm a welodd yr ymwelwyr yn sicrhau'r rhan helaeth o'r meddiant.

Roedd pwynt i'w groesawu, ac yn ddigon i gadw Casnewydd yn 20fed safle'r tabl.