Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Scarlets 23- 24 Lions

  • Cyhoeddwyd
Eddie James a Joe Roberts yn herio Henco van WykFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Eddie James a Joe Roberts yn herio Henco van Wyk

Colli oedd hanes y Scarlets yn erbyn y Lions yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig wedi iddyn nhw adael i'r gêm lithro o'u gafael yn y munudau olaf.

Roedd y tîm cartref wedi treulio rhan helaeth o'r gêm ar y blaen, diolch i geisiau Tom Rogers a Ryan Elias - oedd heb chwarae dros ei ranbarth am 11 mis - a chicio Ioan Lloyd.

Roedden nhw 23-17 ar y blaen gyda rhyw 10 munud i fynd cyn i Steff Evans ildio'r meddiant trwy gamgymeriad anffodus.

Manteisiodd y gwrthwynebwyr ar hynny gan sgorio'u trydydd cais o'r noson - Marius Louw, PJ Botha a Henco van Wyk oedd y tri a diriodd.

Roedd Sanele Nohamba wedi cicio'n gyson gywir drwy'r ornest ac fe gymrodd ei amser cyn y trosiad a gipiodd fuddugoliaeth gyntaf y Lions o'r tymor gyda munud i fynd.