Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Dreigiau 10-33 Leinster

  • Cyhoeddwyd
Ciaran FrawleyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ciaran Frawley sgoriodd y trydydd cais i'r ymwelwyr

Mae dechrau siomedig y Dreigiau i'r tymor yn parhau ar ôl iddyn nhw golli o 33 pwynt i 10 gartref yn erbyn Leinster.

Capten Leinster, Dan Sheehan, oedd seren y gêm - yn sgorio cais cynta'r ymwelwyr, yn ogystal â chwarae rhan allweddol yng ngheisiau Thomas Clarkson a Ciaran Frawley naill ochr i'r egwyl.

Y canolwr Aneurin Owen sgoriodd yr unig gais i'r tîm cartref, wrth iddo gasglu cic ardderchog gan Rhodri Williams cyn gwibio tua'r llinell gais.

Ond buan iawn y diflannodd unrhyw obaith yr oedd gan y tîm cartref o frwydro'n ôl, wrth i Charlie Ngatai sicrhau pwynt bonws i'r Gwyddelod.

Gydag ychydig dros awr o'r gêm wedi'i chwarae, cafodd blaenasgellwr Cymru a'r Dreigiau, Taine Basham, ei yrru o'r cae am daro Ross Byrne gyda'i benelin.

Lawr i 14 dyn gydag 18 munud yn weddill, doedd y Dreigiau methu ag atal Scot Penny rhag ychwanegu pumed cais i'r ymwelwyr.

Dyw'r Dreigiau heb ennill gêm yng Nghasnewydd ers iddyn nhw drechu Zebre yn Hydref 2022.

Mae'r golled yn erbyn Leinster yn gadael y Dreigiau yn y 15fed safle yn y tabl.

Pynciau cysylltiedig