Cyhuddo dyn o'r gogledd yn dilyn anhrefn Llundain
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Sir y Fflint ymhlith saith o bobl sydd wedi'u cyhuddo yn dilyn anhrefn yn Llundain ddydd Sadwrn.
Cafodd Sam Fairclough, sy'n 37 oed ac o Fwcle, ei gyhuddo o fod ag arf ymosodol yn ei feddiant.
Mae wedi'i ryddhau ar fechnïaeth ac mae disgwyl iddo fynd o flaen Llys Ynadon Westminster ddechrau Rhagfyr.
Parhau mae ymholiadau Heddlu'r Met i'r hyn ddigwyddodd ar ddiwrnod y Cadoediad.
Cafodd 145 o bobl eu harestio yn ystod gorymdaith gan tua 300,000 o bobl yn erbyn ymosodiadau ar y Palesteiniaid yn Gaza a gwrth-brotest grwpiau asgell dde.
Roedd mwyafrif y rhai a gafodd eu harestio yn rhan o'r gwrth-brotest, ac mae'r troseddau honedig yn cynnwys ymosod, difrod troseddol, cymell casineb hiliol a throseddau'r drefn gyhoeddus.