Difrod i swyddfa AS Llafur, Jo Stevens ar ôl protest Gaza

  • Cyhoeddwyd
Gosodwyd enwau pobl fu farw yn Gaza, paent coch a sylwadau ar swyddfa Jo Stevens yng Nghaerdydd nos Iau
Disgrifiad o’r llun,

Gosodwyd enwau pobl fu farw yn Gaza, paent coch a sylwadau ar swyddfa Jo Stevens yng Nghaerdydd nos Iau

Mae difrod wedi ei wneud i swyddfa Aelod Seneddol Llafur yng Nghaerdydd, gyda phrotestwyr yn ei chyhuddo o fod â "gwaed ar ei dwylo".

Cafodd paent coch ei blastro ar swyddfa Jo Stevens yn ardal Y Rhath nos Iau, a baner yn dweud ei bod o blaid lladd plant yn Gaza.

Roedd wedi ymgasglu yno i gynnal protest o blaid Palestiniaid yn sgil yr hyn sy'n digwydd yn Y Dwyrain Canol.

Mewn ymateb, dywedodd Ms Stevens ei bod hi o blaid hawl pobl i brotestio ond bod hyn yn mynd yn "rhy bell" ac yn "ddifrod troseddol".

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio.

Roedd Ms Stevens, AS Canol Caerdydd, wedi ymatal rhag pleidleisio yn Nhŷ'r Cyffredin nos Fercher ar gadoediad yn Gaza.

"Nid protest heddychlon yw hon," meddai wrth sefyll tu allan i'w swyddfa fore Gwener.

"Rwy'n cefnogi'n llwyr yr hawl i brotestio, rwy'n cefnogi hynny'n ddiamwys - ond difrod troseddol yw hwn."

Aeth ymlaen i ddweud bod y swyddfa yn lleoliad gwaith iddi hi a'i staff ac y dylen nhw allu cael mynd yno yn ddiogel.

Poster ar Swyddfa Jo Stevens
Disgrifiad o’r llun,

Roedd un o'r posteri yn cyhuddo Ms Stevens o fod â gwaed ar ei dwylo

Yn ôl Heddlu'r De, maen nhw'n ymchwilio i ddifrod troseddol mewn eiddo ar Heol Albany, Y Rhath.

Mae nifer o eitemau wedi eu cymryd ar gyfer eu harchwilio ac mae ymholiadau yn parhau, meddai'r llu.

Mae safbwynt y Blaid Lafur ar gadoediad wedi rhannu'r blaid a sawl aelod seneddol wedi ymddiswyddo o'r fainc flaen cyn y bleidlais nos Fercher.

Beth Winter, sy'n cynrychioli Cwm Cynon, oedd yr unig AS Llafur Cymreig i gefnogi'r cadoediad.

Jo Stevens
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Jo Stevens AS mai'r trethdalwr fydd yn gorfod talu am y difrod i'r swyddfa etholaeth

Wrth ymateb i'r hyn ddigwyddodd, dywedodd Ms Stevens mewn cyfweliad ar BBC Radio Wales ddydd Gwener nad oedd ateb hawdd a bod pawb ar y ddwy ochr am gadoediad.

"Mae'r ffaith bod Hamas a Llywodraeth Israel wedi bod yn gwbl glir na fydd y brwydro yn dod i ben ar hyn o bryd, mae 'na lawer o waith tu ôl i'r llenni yn ddiplomyddol yn digwydd," meddai.

"Yr wythnos yma fe wnes i gyfarfod nifer o deuluoedd yn Y Senedd sydd â pherthnasau sy'n dal i gael eu dal fel gwystlon a rhai a laddwyd yn ogystal â Palestiniaid sydd wedi colli aelodau o deuluoedd yn Gaza.

"Mae pawb am weld y trais yn dod i ben, ond efo'r ddwy ochr yn dweud na fydden nhw yn rhoi stop ar y bomio, mae hi'n amhosib dod i gadoediad heb drafodaethau."

'Protest heddychlon'

Fe ddywedodd hefyd iddi gael ei synnu bod cyn-Aelod o Senedd Cymru yn bresennol yn y brotest o flaen ei swyddfa nos Iau.

"Byddwn wedi meddwl y byddai gan yr unigolyn yma rhyw ddealltwriaeth o'r effaith ar fy nhîm," ychwanegodd.

Yn ôl cyn-aelod Plaid Cymru o'r Senedd, Bethan Sayed, roedd hi'n rhan o "brotest heddychlon" ac fe wnaeth hi, mewn ymateb, gyhuddo Ms Stevens o fethu "deall a pharchu" sylwadau ei hetholwyr sy'n cefnogi cadoediad.

"Roeddwn yn rhan o rywbeth heddychlon," meddai mewn datganiad. "Dwi'n annog Jo Stevens i ystyried ei gweithredoedd yn hytrach na chanolbwyntio arna i."

Swyddfa Jo Stevens yng Nghanol Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

"Mae hyn wedi'i gynllunio i ddychryn ac i achosi ofn ac aflonyddwch," meddai Jo Stevens

Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford ategu safbwynt arweinydd y Blaid Lafur Syr Keir Starmer, sydd wedi galw am "oedi dyngarol" er mwyn cyrraedd pobl gyffredin Gaza.

Fe wnaeth lluoedd Israel ymateb i ymosodiadau Hamas ar 7 Hydref pan laddwyd 1,200 o bobl a chymryd tua 240 o bobl yn wystlon, gan ymosod ar Lain Gaza.

Yn ôl Hamas, mae 11,500 o bobl wedi eu lladd yno gyda'r Cenhedloedd Unedig yn rhybuddio am "argyfwng dyngarol".

Pynciau cysylltiedig