Senedd Cymru yn galw am 'gadoediad ar unwaith' yn y Dwyrain Canol

  • Cyhoeddwyd
Dynes a phlentyn yng nghanol adeiladau wedi eu dinistrio yn GazaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dynes a phlentyn yng nghanol adeiladau wedi eu dinistrio yn Gaza

Mae Senedd Cymru wedi galw am "gadoediad ar unwaith" yn y Dwyrain Canol, wedi dadl emosiynol ddydd Mercher.

Cafodd cynnig Plaid Cymru - a oedd yn condemnio'r ymosodiadau "brawychus" gan Hamas ar ddinasyddion Israelaidd, ac "ymosodiadau diwahân ar Gaza" gan Lywodraeth Israel - ei basio.

Roedd 24 o blaid y cynnig, 13 wedi ymatal ac 19 yn erbyn.

Ond roedd y farn o fewn Senedd Cymru - ac o fewn y grŵp Llafur - yn rhanedig o ran beth y dylai'r Senedd fod wedi ei ddatgan.

Fe wnaeth y llywodraeth ganiatáu pleidlais rydd i aelodau meinciau cefn gan ymatal eu pleidlais.

Roedd hynny'n cynnwys y Prif Weinidog Mark Drakeford, sydd wedi datgan safbwynt tebyg i un Syr Keir Starmer, gan alw am saib dyngarol.

Ffynhonnell y llun, Oren Rosenfeld
Disgrifiad o’r llun,

Cartrefi wedi eu dinistrio yng nghibwts Kfar Aza

Pasiwyd cynnig dydd Mercher gyda chefnogaeth nifer o ASau Llafur oedd wedi llofnodi datganiad barn symbolaidd ar wahân yn galw am "gadoediad syth".

Fe allai'r gefnogaeth i gadoediad roi mwy o bwysau ar Syr Keir, arweinydd Llafur trwy'r DU, sydd wedi dod dan bwysau o fewn y blaid i newid ei safbwynt.

Mae Syr Keir wedi dweud ei fod yn deall galwadau am gadoediad, ond fe fyddai hynny'n golygu bod rhwydweithiau Hamas yn dal yn gyfan, gan eu galluogi i gynnal ymosodiadau yn y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r weinyddiaeth iechyd yn Gaza yn honni bod dros 10,000 o bobl wedi marw yno ers 7 Hydref

Dan y drefn ddatganoledig, does dim rhan ffurfiol gan y Senedd mewn materion tramor, ond mae gwleidyddion Bae Caerdydd yn aml yn datgan eu barn.

Mae Prif Weinidog Ceidwadol y DU, Rishi Sunak, hefyd wedi cefnogi galwadau i atal gwrthdaro yn hytrach na chadoediad, gan ddadlau fis diwethaf y byddai hynny o fudd i Hamas.

'Rhaid i'r argyfwng ddod i ben'

Roedd cynnig Plaid Cymru, a basiwyd, yn galw ar y gymuned ryngwladol "i uno i geisio sicrhau cadoediad ar unwaith i ddod â'r dioddefaint dynol i ben a chaniatáu i sefydliadau dyngarol gyrraedd y rhai mewn angen".

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mwg yn codi yn ninas Gaza wedi ymosodiad gan Israel

Dywedodd arweinydd y blaid, Rhun ap Iorwerth: "Wrth i'r ymosodiadau ar Gaza ddwysáu, gyda gormod o bobl ddiniwed yn colli eu bywydau, eu hanwyliaid a'u cartrefi ac yn byw dan ofn, mae'r sefyllfa ddyngarol yn dod yn fwy anobeithiol byth.

"Mae teuluoedd Palesteinaidd ac Israelaidd wedi cael eu rhwygo. Rhaid i Hamas ryddhau'r holl wystlon ar unwaith a rhaid i'r llywodraeth Israelaidd stopio'r bomio dwys ar Lain Gaza.

"Mae angen i'r argyfwng yma ddod i ben," meddai.

Fe wnaeth yr ASau Llafur John Griffiths, a gyflwynodd y datganiad barn, Sarah Murphy a Carolyn Thomas gefnogi cynnig Plaid Cymru.

'Troi eu cefnau ar y dwyrain canol'

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ddydd Mercher, dywedodd aelod Blaenau Gwent yn Senedd Cymru, Alun Davies: "Mae'n dorcalonnus gweld beth sy'n digwydd yn Gaza ar hyn o bryd."

"Dwi'n meddwl bod gan bob un ohonom ni yn y gymuned ryngwladol gyfrifoldeb i sicrhau ein bod ni'n cydweithio gydag Israel a gyda'r Palesteiniaid i sicrhau heddwch parhaus...

"Does neb wedi 'neud hynny yn ystod y degawd ddiwethaf, mae pobl wedi troi eu cefnau ar y dwyrain canol."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Dwy fenyw'n galaru yn ystod angladd dyn a gafodd ei ladd gan Hamas

Wrth ymateb i gynnig Plaid Cymru, dywedodd Mr Davies: "Does dim equivalence rhwng Israel a Hamas, mae gan Israel, fel pob gwlad arall... yr hawl i amddiffyn ei hun.

"Mae Plaid Cymru wedi gosod y cynnig yma ac yn creu equvialence rhwng Hamas ac Israel a dyw hynny ddim yn wir a ddim yn bosibl i mi gefnogi."

Roedd y gwelliant a gyflwynwyd gan yr AS Ceidwadol Darren Millar yn galw ar y gymuned ryngwladol i "weithio gyda chynrychiolwyr Israel a Phalesteina i ddod â'r gwrthdaro i ben a thrafod setliad heddwch parhaol", ond ni chafwyd pleidlais ar y gwelliant gan fod cynnig Plaid Cymru wedi cael ei basio.

Dywedodd Mr Millar: "Mae'n bwysig bod y Senedd yn anfon neges glir i bobl Israel a Phalesteina ein bod eisiau gweld setliad hir a pharhaol er lles y bobl Israelaidd a Phalesteinaidd."

Ni wnaeth Mark Drakeford gyfrannu i'r ddadl, gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt yn ymateb ar ran y llywodraeth.

Dywedodd hi wrth y Senedd fod gweinidogion yn ymatal eu pleidlais "oherwydd y confensiwn hirsefydlog o ymatal ar faterion tramor".