Gyrrwr yn gwadu achosi marwolaethau dau berson ifanc yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 19 oed wedi pledio'n ddieuog i achosi marwolaeth dau berson yn eu harddegau mewn gwrthdrawiad ym mis Mai y llynedd.
Plediodd Owain Hammett-George o'r Gellifedw, Abertawe, yn ddieuog i gyhuddiadau o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal ac achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus.
Bu farw Ben Rogers a Kaitlyn Davies, oedd yn 19 oed, mewn gwrthdrawiad yn Abertawe ar 31 Mai 2022.
Cafodd person 17 oed ei gludo i'r ysbyty hefyd, ar ôl torri ei wddf, a dioddef anaf difrifol i'w ymennydd.
Mae Mr Hammett-George wedi gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn, ac mae disgwyl iddo ymddangos o flaen Llys y Goron Abertawe ar 1 Gorffennaf 2024.

Bu farw Kaitlyn Davies a Ben Rogers yn dilyn y gwrthdrawiad yn Llandeilo Ferwallt ger Abertawe
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2022