Carcharu gyrrwr 'diamynedd' a 'ddefnyddiodd ei gar fel arf'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn "a ddefnyddiodd ei gar fel arf" wedi cael ei garcharu am wyth mlynedd am ladd cerddwr y tu allan i'w gartref ger Ffoslas.
Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Barry Thomas, 73 oed, wedi bod yn gyrru yn rhy agos i'r car o'i flaen yn ystod y digwyddiad ar 23 Ionawr y llynedd, a doedd dim amser ganddo i osgoi Brian Guest, oedd yn cerdded ar ochr ffordd y B4317.
Cafodd Mr Guest, oedd yn 61 oed, ei daro gan y car, a bu farw o'i anafiadau yn yr ysbyty.
Roedd Thomas wedi gwadu ei fod yn gyrru'n beryglus, ond fe gafwyd yn euog mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe ym mis Hydref.
Mewn gwrandawiad ddydd Gwener, cafodd ei garcharu am wyth mlynedd, ac fe gafodd ei wahardd rhag gyrru am 10 mlynedd.
Roedd Thomas wedi ceisio rhoi'r bai ar yrrwr y car o'i flaen, ond fe roddodd yr unigolyn yna dystiolaeth i'r llys wnaeth brofi bod y diffynnydd yn rhy agos.
Roedd y gyrrwr wedi dweud ei fod wedi gweld Mr Guest yn cerdded ar ymyl y ffordd ac wedi symud tua chanol y lon i roi mwy o le iddo.
Ond fe sylwodd wedyn ar gar y diffynnydd ar ochr chwith ei gar eiliadau cyn iddo daro Mr Guest.
Teulu wedi ei 'chwalu yn llwyr'
Wrth ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Geraint Walters fod Thomas yn "yrrwr blin a diamynedd, oedd yn gyfrifol am gipio bywyd dyn 61 oed iachus - mab, gŵr a thad-cu oedd yn cael ei garu'n fawr - gan adael teulu wedi ei chwalu yn llwyr gan ei weithredoedd".
Mewn datganiad i'r llys dywedodd gwraig Mr Guest bod Barry Thomas "wedi defnyddio ei gar fel arf" i ladd ei gŵr.
"Doedd dim rhaid i hyn ddigwydd, a 'da chi ddim yn edifar am yr hyn wnaethoch chi. Dyw ein bywydau bellach ddim yn fywydau cyffredin," meddai.
Ychwanegodd y teulu bod y diffynydd wedi dinistrio eu bywydau, wedi dwyn y dyfodol gyda Mr Guest ac wedi cipio "gŵr, tad a thad-cu arbennig".