Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Dreigiau 20-5 Gweilch
- Cyhoeddwyd
Y Dreigiau oedd yn fuddugol yn erbyn y Gweilch ddydd Sadwrn -y tro cyntaf iddynt ennill ar eu tomen eu hunain ers blwyddyn gyfan.
Roedd y Gweilch yn croesawu Jac Morgan a Gareth Thomas yn ôl i'r tîm wedi Cwpan Rygbi'r Byd.
Er mai'r Gweilch oedd y cryfaf yn chwarter cynta'r gêm, dangosodd y Dreigiau fwy o dân yn yr ail chwarter gan sicrhau mantais o 13-5 erbyn hanner amser.
Roedd hyder amlwg yn chwarae'r tîm cartref ar ddechrau'r ail hanner, gyda chais yr asgellwr rhyngwladol Rio Dyer yn ymestyn y fantais ymhellach.
Methodd y Gweilch ymateb, gan adael buddugoliaeth bwysig i'r Dreigiau o 20-5.